Newyddion

01/06/2018

Y gwaith yn cychwyn ar gynllun gofal ychwanegol yn Nhreffynnon sy’n werth £8.5 miliwn

Mae Tai Wales & West wedi cychwyn ar y gwaith ar ei phedwerydd cynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn.

Bydd yr adeilad pedwar llawr ar Ffordd Halkyn yn cynnwys 43 o fflatiau un ystafell wely a 12 o fflatiau dwy ystafell wely, ynghyd ag amrediad o gyfleusterau a gwasanaeth gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymorth.

Cyflawnir y datblygiad mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, a’r prif gontractwyr yw Anwyl Construction.

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH:  “Y cynllun gofal ychwanegol newydd hwn fydd ein hail gynllun yn Sir y Fflint, gan gynnig mwy fyth o gapasiti ar gyfer byw bywyd annibynnol mewn llety o ansawdd uchel, gyda mynediad i wasanaethau gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle.

“Rydym wrth ein bodd o gael cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn cynnig y cynllun, a gydag Anwyl Construction fel y prif gontractwr, gallwn sicrhau bod swyddi yn cael eu creu a’u cadw yng Ngogledd Cymru, gan gynnig budd economaidd sylweddol i’r rhanbarth.”

Dywedodd Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol:  “Mae hwn yn gam ymlaen gwych arall ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn Sir y Fflint.

“Wrth i’r Cyngor, WWH ac Anwyl Construction weithio mewn partneriaeth, rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth.  Bydd y datblygiad newydd yn Nhreffynnon yn cynnig cyfleusterau gwych er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau preswylwyr.”

Disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i gynllun gofal ychwanegol Treffynnon erbyn y Gwanwyn 2020.

Yn ystod y cyfnod adeiladu, nod Anwyl Construction yw defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol, gan gynnig prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith er mwyn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol a dwyn buddsoddiad i economi yr ardal.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru