Newyddion

16/05/2018

Troseddu yn gostwng yn Sir y Fflint, diolch i Tai Wales & West

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn eu harddegau, a oedd yn difetha dau bentref yn Sir y Fflint, bellach yn lleihau, diolch i sesiynau pêl-droed a gynhelir bob nos Wener, ac a ariannir gan Tai Wales & West.

Yn dilyn adroddiadau cynyddol am bobl ifanc yn gwneud difrod troseddol, yn chwarae pêl-droed ar safleoedd busnesau ac yn taflu wyau at gerbydau yn Ewlo a Phenarlâg, aethom ati i helpu i gynorthwyo’r datrysiad a luniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Bellach, mae dros 20 o bobl ifanc 12-17 oed yn mynychu sesiwn pêl-droed wythnosol yn Ysgol Uwchradd Penarlâg, sy’n cael ei rhedeg gan swyddog cymorth cymunedol yr heddlu (PCSO), Stephanie Jones a Dan Williams, cydlynydd chwaraeon cymunedol a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura.

Roedd nifer o’r rhai a oedd dan amheuaeth am gyflawni’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhoi’r bai ar ddiflastod a’r ffaith nad oedd unrhyw beth i’w wneud ar ôl ysgol.

Ond gyda gweithgarwch rheolaidd yn cael ei gynnal er mis Medi y llynedd, mae troseddau YG yn Ewlo a Phenarlâg yn lleihau – ac mae’r cysylltiadau rhwng yr heddlu a phobl ifanc yn gwella.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Anne Hinchey:

“Mae’n rhaglen nawdd yn canolbwyntio ar nodi prosiectau a sefydliadau sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth o wneud gwahaniaeth yn y gymuned, rydym wrth ein bodd o weld yr effaith gadarnhaol y mae’r sesiynau pêl-droed wedi’u cael yn yr ardal.”

Dywedodd PCSO Stephanie Jones:

“Roeddwn i a Dan yn teimlo nad oedd digon o weithgareddau cadarnhaol ym Mhenarlâg ac Ewlo, y byddai modd i bobl ifanc lleol fanteisio arnynt er mwyn llenwi eu hamser y tu allan i’r ysgol mewn ffordd fwy adeiladol.

Bu Tai Wales & West yn hael iawn, gan ddarparu £500 o’r £750 a godwyd er mwyn cefnogi’r rhaglen, a darparwyd y gweddill gan bwyllgor tasg YG Cyngor Sir y Fflint a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura.

Heb os, mae’r sesiynau pêl-droed wedi cael effaith gadarnhaol ar lefelau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr ardal, yn enwedig ar nos Wener.

Cyn y rhaglen, roedd YG ym Mhenarlâg ac Ewlo yn bwnc trafod misol yn ystod cyfarfodydd yr heddlu, yn dilyn nifer o adroddiadau yr oeddem yn eu cael, ond chwe mis ers sefydlu’r prosiect, nid yw ar yr agenda mwyach, sy’n dangos y gwelliant aruthrol a fu.”

Bellach, mae PCSO Jones yn gobeithio ymestyn y prosiect a’i ehangu yn y dyfodol. Ychwanegodd:

“Yn ystod rhai o’r wythnosau prysuraf, mae cymaint â 50 wedi mynychu i gymryd rhan, sy’n wych.

Mae Dan a minnau yn bresennol ym mhob sesiwn oherwydd y teimlaf ei bod yn bwysig gwaredu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu, gan gael gwared ar eu rhagdybiaethau am yr hyn a wnawn.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru