Newyddion

03/08/2026

Preswylwyr Caerdydd yn dathlu pen-blwydd y cynllun yn 40 oed⁠⁠ ⁠

Bu preswylwyr Tŷ Wilfred Brook yng Nghaerdydd yn dathlu pen-blwydd agoriad y cynllun yn 40 oed gyda chacen a phaned.⁠ ⁠ 

Roedd yn gyfle i breswylwyr ddod ynghyd yn y lolfa gymunol a dod i adnabod eu cymdogion. 

Agorwyd Tŷ Wilfred Brook yn Grangetown ym 1986, ac mae’n gartref i fwy na 60 o breswylwyr, y rhan fwyaf ohonynt dros 55 oed, sy’n byw’n annibynnol yn y bloc o 52 o fflatiau. 

Pan gynhaliwyd Sgwrs Gymunedol yn y cynllun yn gynharach yn y gwanwyn, dywedodd rhai preswylwyr wrthym yr hoffent weld mwy yn digwydd yn y lolfa gymunol.  

Yn ystod y parti pen-blwydd, trafododd preswylwyr weithgareddau eraill y gallent eu trefnu gyda chymorth staff Tai Wales & West. 

Dywedodd Nicola Draper, Rheolwr Tai Rhanbarthol: “Un o’r pethau a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein Sgwrs Gymunedol oedd cyn lleied oedd y lolfa gymunol yn cael ei defnyddio, a’r ffaith bod rhai preswylwyr yn teimlo’n eithaf unig.  

“Y cam cyntaf oedd y parti pen-blwydd yn 40 oed; cyfle i ni helpu preswylwyr i ddod ynghyd, dod i adnabod eu cymdogion a defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i gynllunio mwy o ddigwyddiadau.”
Nicola Draper, Rheolwr Tai Rhanbarthol
 

⁠”Mae siarad â phreswylwyr yn ystod ein Sgwrs Gymunedol a gwrando ar yr hyn sy’n bwysig iddynt wedi ein helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i wneud gwelliannau yn seiliedig ar adborth preswylwyr.” ⁠ ⁠

 

Ers y Sgwrs Gymunedol yn Nhŷ Wilfred Brook, Caerdydd, ym mis Mai, rydym wedi bod yn:  ⁠  

  • gweithio gyda Heddlu De Cymru i drefnu sesiynau galw heibio rheolaidd i breswylwyr gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs)  
  • gweithio gyda Chyngor Caerdydd i wneud gwelliannau a monitro’r broses o reoli gwastraff 
  • gwneud gwelliannau i’r cyfleusterau golchi dillad