Newyddion

19/08/2022

Plannu hadau iechyd da

Ar draws ein cymunedau yng Nghymru, mae mwy o breswylwyr yn hau ac yn medi manteision iechyd meddyliol a chorfforol da trwy eu gerddi.

O Gwrt Western, Pen-y-bont ar Ogwr i Glos Meithrin, Prestatyn, ceir nifer o erddi lle y bydd preswylwyr yn dod ynghyd i dyfu.

Un o’r rhai mwyaf sefydledig yw Gardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd, lle y mae preswylwyr Tai Wales & West a’u cymdogion yn dod ynghyd bob prynhawn dydd Gwener, ac maent wedi bod yn gwneud hynny ers bron i ddegawd.

Mae Glenys Vandervolk, garddwr ac un o’r preswylwyr, yn un o’r aelodau gwreiddiol. Mae hi’n rhannu ei gwybodaeth am arddio gydag aelodau presennol y clwb yn rheolaidd, gan groesawu newydd-ddyfodiaid gyda phaned a gwên. Mae’r garddwyr yn tyfu coed ffrwythau, llysiau a blodau.

“Bellach, rydw i wrth fy modd yma, rydw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac rydw i’n teimlo’n rhan o gymuned dyfu wych.”
Mae Glenys Vandervolk, garddwr ac un o’r preswylwyr

Dywedodd Glenys: “Rydym oll yn edrych ymlaen i weithio yn yr ardd bob wythnos. Byddaf yn paratoi rhestr o’r tasgau y mae angen eu cyflawni a byddwn yn rhannu’r tasgau rhwng yr aelodau, gan ddibynnu ar eu gallu.

“Mae rhai o’n haelodau yn gwella ar ôl cael salwch difrifol, ac mae’r hyn y gallant ei wneud yn gyfyngedig, ac mae eraill yn dod gyda’u gweithwyr cymorth neu eu gofalwyr. Mae gennym oll gyfraniad i’w wneud – hyn sy’n gwneud ein clwb mor bwysig.

“Rydym yn trafod yr hyn yr hoffem ei dyfu, yna byddwn yn plannu’r hadau. Dros y blynyddoedd, rydym wedi tyfu melonau, cnau mwnci a phwmpenni cnau menyn. Rydym yn hoffi tyfu’r ffrwythau a’r llysiau y maent yn ddrud i’w prynu.

“Pan ddechreuom yr ardd, nid oeddem yn adnabod ein gilydd, ond rydym wedi gwneud ffrindiau ac rydym yn edrych ymlaen i ddod ynghyd bob wythnos.

Dywedodd aelod rheolaidd arall: “Pan ddeuthum i’r ardd y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo’n ofidus iawn. Roedd ofn mawr arnaf gerdded i mewn i’r ardd a chyfarfod pobl newydd. Ond roeddent wedi rhoi’r amser i mi feithrin fy hyder.

Bellach, rydw i wrth fy modd yma, rydw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac rydw i’n teimlo’n rhan o gymuned dyfu wych.”

A wyddoch chi…
Mae nifer y calorïau y bydd rhywun yn eu llosgi trwy arddio am 30 munud yn cymharu gyda chwarae badminton, pêl foli neu wneud ioga.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.