Datblygu ein gweithlu ein hunain
Datblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol
Byddwn yn hyrwyddo amrediad o gyfleoedd i hyfforddeion a fydd yn cynnig cyfle unigryw i chi gyflawni rôl wrth wneud gwahaniaeth, gan sicrhau profiad gwaith gwerthfawr ar yr un pryd. Mae gweithio yn ein sector ni yn ddewis gyrfa gwych, os ydych chi’n ystyried eich swydd gyntaf, dychwelyd i fyd gwaith neu os ydych chi newydd orffen astudio cymhwyster.
Siaradwch ag un o aelodau’r tîm.
Swydd Wag Gyfredol
Graddedig Cyllid
Rydym yn chwilio am unigolyn i weithio yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd, rhywun sy’n chwilio am ac sy’n fodlon ymrwymo i gyfle gwych i roi cychwyn ar eu gyrfa ym maes Cyllid. Gan gyflawni rôl amrywiol byddwch yn cyflawni rôl hollbwysig wrth sicrhau y gallwn gyflawni ein diben a pharhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n preswylwyr ar draws Cymru trwy gynnal a datblygu protocolau ac arferion cyllid da.
Cynhelir noson agored ar-lein am 6pm ar nos Fercher 13 Ebrill 2022. Nod y sesiwn hon yw darparu rhagor o wybodaeth am y rôl a bydd yn gyfle i WWH ddod i wybod mwy amdanoch chi. Cofrestrwch nawr i sicrhau’ch lle.
Cofrestru ar gyfer y noson agored
Mae’n hawdd ymgeisio, cliciwch y botwm isod a dywedwch wrthym pam bod y rôl hwn yn addas i chi, a’r hyn y gallwch ei gynnig i’n sefydliad. Cynhelir yr asesiad ar gyfer y rôl hwn yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 9 Mai 2022.
Ymgeisio am y rôl
Pam dewis Tai Wales & West?
Gwneud gwahaniaeth
Mae pob diwrnod yn wahanol
Ystod eang o yrfaoedd
Trefniadau gweithio hyblyg
Tâl a buddion gwych
Ymrwymiad i fuddsoddi yn eich gyrfa

Cyfle i raddedigion sydd ar ddod
Cyn bo hir, byddwn yn hysbysebu am gyfle gwych i rywun ymuno â’n tîm Gwasanaethau Eiddo. Os ydych chi’n chwilio am yrfa ym maes Tai yn y dyfodol, ond nid ydych yn siŵr pa faes yn union yr hoffech weithio ynddo, mae’r cyfle hwn yn un perffaith i chi.
Mae’r cyfle hwn yn caniatáu i chi gael blas o sawl adran mewn Cymdeithas Dai. Byddwch yn cael profiad gwerthfawr uniongyrchol o weithio yn yr adrannau hyn, gan fynychu cyrsiau hyfforddiant er mwyn helpu eich datblygiad proffesiynol: a byddwch yn gwneud hyn oll gan ennill cyflog amser llawn ar yr un pryd.
Os yw hyn yn apelio i chi ac os hoffech gael gwybod mwy, cofrestrwch am hysbysiadau swyddi er mwyn i chi fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y swydd hon ar gael.
Pa adrannau y byddaf yn cael y cyfle i weithio ynddynt?
Cofrestrwch i gael ein hysbysiadau am swyddi
Cyfle i raddedigion sydd ar ddod: Gwasanaethau Eiddo

Mae ein swyddi i hyfforddeion yn sicrhau bod eich profiad o weithle yn un gwych, a chredwn bod hyn yn rhywbeth y gallwn ei gynnig o ystyried ein diwylliant unigryw. Mae ein rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain yn sicrhau bod ein hyfforddeion yn cael yr hyfforddiant technegol cywir a’r cyfle i feithrin y wybodaeth, yr agwedd a’r sgiliau ymarferol cywir y bydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo yn eu gyrfa yn y dyfodol. I rai hyfforddeion, bydd hyn yn cynnwys cymorth llawn i sicrhau cymhwyster proffesiynol perthnasol hefyd.
Rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae ein rhaglen yn gweithio gan y rhai yr ydym yn eu cyflogi ar hyn o bryd.
Darllen mwy