A ydych chi’n fodlon gyda’n gwasanaethau?
Ym mis Mai a Mehefin, estynnwyd gwahoddiad i breswylwyr gymryd rhan mewn Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi lefelau bodlonrwydd preswylwyr yr holl ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru. Dewiswyd preswylwyr ar hap i lenwi’r arolwg ar-lein, dros y ffôn neu ar bapur. At ei gilydd, roedd 1,141 o aelwydydd wedi cymryd rhan, a oedd yn cynrychioli dros 1 o bob 10 preswylydd.
Rydym wedi astudio’r canlyniadau, ac maent yn dangos, er bod y lefel fodlonrwydd gyffredinol wedi codi ychydig, bod dau prif faes lle y mae angen i ni wneud gwelliannau.
Y rhain yw:
Y ffordd yr ydym yn casglu gwybodaeth gan breswylwyr fel y gallwn ddarparu’r gwasanaethau y mae pob unigolyn yn eu dymuno (proffilio preswylwyr)
Y ffordd yr ydym yn ymgysylltu gyda phreswylwyr, a oedd yn bwysig i 81% o’r preswylwyr a holwyd.
