Gwneud cais am dai cymdeithasol yn Wrecsam

Gwneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw darparwr mwyaf cartrefi fforddiadwy yn yr ardal hon.  Felly, er mwyn cael mwy o ddewis, fe’ch cynghorwn i gofrestru gyda nhw.

I wneud eich cais, ffoniwch 01978 298993 neu trowch at Wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam >

Gwneud cais i Dai Wales & West

Rydym yn rheoli ein rhestrau aros ein hunain ar gyfer cartrefi yn Wrecsam. Trowch at ein rhestr eiddo agored isod i gael gwybod pa eiddo yr ydym yn derbyn ymholiadau amdanynt ar hyn o bryd ar gyfer y rhestr aros, a chysylltwch â’n Tîm Dewisiadau Tai gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt isod.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn derbyn ymholiadau i ymuno â’r restr aros yn Wrecsam.