Hunanwerthusiad Grŵp Tai Wales & West 2025

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio pob cymdeithas tai yng Nghymru ac mae’n rhaid iddynt ddilyn y Fframwaith Rheoliadol.
Bob blwyddyn, rhaid i ni gynnal hunanwerthusiad fel rhan o’n Dyfarniad Rheoleiddio.
Mae’n dangos sut yr ydym yn bodloni’r 9 Safon Rheoleiddio y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru eu bodloni.
Mae’r safonau yn cynnwys llywodraethu, darparu gwasanaeth a hyfywedd ariannol.
Mae ein hunanwerthusiad presennol isod, neu gallwch lawrlwytho’r ddogfen fel pdf.

Definitions

Llywodraethu da: Mae hyn yn golygu cael arweiniad effeithiol a rheolaeth dda gan fyrddau, pwyllgorau gweithredol a staff. Gweithio gyda phreswylwyr a phartneriaid i wneud a gweithredu penderfyniadau busnes effeithiol.

Darparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel: Mae hyn yn golygu darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau amrywiol pobl, gyda phwyslais ar wasanaethau o ansawdd uchel a gwelliant parhaus.

Hyfywedd ariannol: Mae hyn yn golygu cael sefyllfa ariannol a reolir yn dda, a’r adnoddau a’r llif arian i fodloni ymrwymiadau busnes presennol ac yn y dyfodol.

Ein Hunanwerthusiad

Diweddarir yr hunanwerthusiad trwy gydol y flwyddyn ac fe’i hadroddir i’r Bwrdd bob tri mis. Mae’n canolbwyntio ar flaenoriaethau preswylwyr, amcanion busnes a bellach y safonau rheoleiddio.

Adroddwyd yr hunanwerthusiad i’r Bwrdd yn y fath ffordd ers sawl blynedd ac mae wedi bod yn ffordd effeithiol a dibynadwy o ddangos lefelau uchel o ran perfformiad a bodlonrwydd preswylwyr.

Rydym yn defnyddio ystod eang o wybodaeth er mwyn dangos tystiolaeth o’n hunanwerthusiad, gan gynnwys mesurau perfformio, adroddiadau a rhagolygon ariannol, adborth a bodlonrwydd preswylwyr, ac adroddiadau ariannol.

Adolygodd y Bwrdd yr hunanwerthusiad ym mis Mai 2025, gan gytuno ar y cynnwys i’w ddarparu i Lywodraeth Cymru.

⁠Mae’r ddogfen hon yn cynnig crynodeb o ba mor dda yr ydym yn cyflawni’r Safonau Rheoleiddio ac mae’n nodi’r meysydd lle’r ydym yn bwriadu gwneud gwelliannau dros y flwyddyn nesaf.

Darganfod mwy am y Safonau Rheoleiddio.

Sut y byddwn yn gwella

Safon Rheoliadol 1

Arweinyddiaeth strategol a llywodraethu ⁠

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Datblygu offeryn i gynorthwyo wrth gyfrifo ôl troed carbon er mwyn deall effaith amgylcheddol WWH
  • Cytuno ar ddull gweithredu ar gyfer Adolygiad Llywodraethu  

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 1

Safon Rheoliadol 2

Trefniadau sicrwydd a rheoli risg cadarn

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn: ⁠

  • Sicrhau bod yr holl faterion sy’n dod i’r amlwg yn cael eu hadolygu yn erbyn ein dulliau presennol a ddiffiniwyd, a bod y risg yn cael ei asesu mewn ffordd briodol 
  • Datblygu gweithgarwch cynllunio sefyllfaoedd ar gyfer digwyddiadau Parhad Busnes 

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 2

Safon Rheoliadol 3

Darparir gwasanaethau o ansawdd uchel i denantiaid

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn: ⁠

  • Adolygu mesurau perfformio mewn nifer o systemau ar gyfer preswylwy

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 3

Safon Rheoliadol 4

Caiff tenantiaid eu grymuso a’u cynorthwyo i ddylanwadu ar gynllun a darpariaeth gwasanaethau

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Ymwreiddio sgiliau ymyrraeth ar draws y grŵp staff, gan ganolbwyntio ar wasanaeth rheng flaen yn y lle cyntaf, megis Trwsio, Gosod ac YG
  • Adolygu arolygon bodlonrwydd WWH ar draws y busnes a chysylltu’n ôl gyda’r diben a datganiadau yr hyn sy’n bwysig 

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 4

Safon Rheoliadol 5

Mae rhenti a thaliadau gwasanaeth yn fforddiadwy i denantiaid presennol a thenantiaid y dyfodol

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Gweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a landlordiaid cymdeithasol eraill i gynnal adolygiad llawn o Renti Byw i Gymru
  • Adolygu’r diben a’r hyn sy’n bwysig ar gyfer rheoli ystadau, gan gynnwys taliadau gwasanaeth 

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 5

Safon Rheoliadol 6

Dull gweithredu strategol tuag at werth am arian

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Gweithio ar brosiect mewnol i wella ein systemau, o gaffael i dalu er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf am arian.

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 6

Safon Rheoliadol 7

Rheolaeth a chynllunio ariannol

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Caffael pecyn rhagamcanu er mwyn galluogi modelu prydlon a chadarn er mwyn cynorthwyo wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau 

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 7

Safon Rheoliadol 8

Caiff asedau a rhwymedigaethau eu rheoli’n dda

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Gweithredu system rheoli asedau er mwyn gwella rheolaeth cyflwr y stoc a chydrannau ymhellach 

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 8

Safon Rheoliadol 9

Darparu llety o ansawdd uchel⁠

Er mwy bodloni holl feysydd y safon hon, byddwn yn:

  • Llunio a chyflwyno cyflwyniad data SATC i LlC .

Disgrifiad llawn o Safon Reoliadol 9

How Wales & West Housing is working to each Regulatory Standard

Safon Rheoliadol 1 – Arweinyddiaeth strategol a llywodraethu

Mae gennym gynllun busnes sy’n amlinellu gweledigaeth, diwylliant a gwerthoedd y sefydliad, ac sy’n nodi’r blaenoriaethau strategol a’r camau gweithredu er mwyn cyflawni ei ddiben. ⁠ Mae’r adroddiad blynyddol yn arddangos cyflawniadau yn ystod y flwyddyn yn erbyn y blaenoriaethau strategol.

Mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu Cod Llywodraethu CCC 2021 ac amlygodd yr adolygiad feysydd gwella ynghylch cydymffurfiaeth a gweithredu ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol ac ôl troed carbon ei weithgareddau.

Rydym yn adolygu cyfansoddiad y Bwrdd bob blwyddyn. Ceir cymysgedd dda o sgiliau, profiad ac amrywiaeth ar y Bwrdd, sy’n adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau yn gadarn, yn cael eu trafod yn dda ac yn rhesymegol. Mae sawl Aelod Bwrdd wedi gadael dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi recriwtio aelodau newydd i lenwi’r bylchau o ran sgiliau.

Mae’r Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr yn seiliedig ar wrando ar y galw gan breswylwyr a chasglu adborth am y gwasanaethau a ddarparir. Caiff safbwyntiau nifer o bobl eu casglu a’u deall.  Mae preswylwyr wedi dweud wrthym yn gyson eu bod yn dymuno cynrychioli eu hunain, nid cael eu cynrychioli gan grŵp bach, maent yn dymuno cymryd rhan mewn materion sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol, a dyma’r rheswm dros ddatblygu ein dull gweithredu a’i gynnwys fel rhan o Ffordd Grŵp Tai Wales & West.

Safon Rheoliadol 2 – Trefniadau sicrwydd a rheoli risg cadarn ⁠

Gyda deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cael ei gweithredu dros y blynyddoedd nesaf, rydym yn gweithio ar ddeall effaith y newidiadau hyn a sicrhau ein bod yn deall sut y byddant yn effeithio ar y gwaith.

Mae gennym Fframwaith Sicrwydd Bwrdd cynhwysfawr sy’n seiliedig ar reoli risg a pherfformiad. Mae’n nodi’r materion y mae gofyn rhoi sylw iddynt, y trefniadau rheoli i’w gweithredu a’r broses o adrodd am ganlyniadau. Mae’r adroddiad perfformiad a sicrwydd chwarterol yn cynnig tystiolaeth i’r Bwrdd o berfformiad ariannol a gweithredol, ac o reoli risg, yn ogystal â nodi risgiau sy’n dod i’r amlwg. Mae’r Bwrdd yn adolygu ei ddull gweithredu mewn perthynas â risg bob blwyddyn.

Ystyrir risg fel rhan o holl benderfyniadau’r Bwrdd sy’n cynnwys mentrau busnes, datblygiadau neu wariant mawr newydd.

Mae cynlluniau parhad busnes ac adfer yn dilyn trychineb yn eu lle ar gyfer Tai Wales & West ac maent yn nodi’r dull gweithredu er mwyn darparu gwasanaethau pe bai digwyddiad mawr neu fygythiad yn codi i weithgarwch rhedeg y busnes.

Safon Rheoliadol 3 – Darparir gwasanaethau o ansawdd uchel i denantiaid

Cyflawnir gwaith diogelwch a chydymffurfiaeth yn bennaf gan ein contractwr mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, gan gynnig rheolaeth lawn i ni dros y meysydd cydymffurfio. Mae’r perfformiad a gaiff ei sicrhau yn uchel iawn ac fe’i hadroddir i’r Cyfarwyddwr Gweithredol bob mis, ac i’r Bwrdd bob tri mis.

Rydym yn defnyddio model a ddisgrifir fel Ffordd GTWW. Mae hyn yn golygu y caiff gwasanaethau eu teilwra wrth y pwynt darparu i fodloni anghenion pob preswylydd.

Caiff staff eu grymuso i amrywio gwasanaethau yn ôl y gofyn a byddant yn cael gwybodaeth am breswylwyr, megis anghenion cymorth, nodweddion gwarchodedig neu’r angen i wneud addasiadau rhesymol. Rhoddir hyfforddiant i staff ar wahanol anghenion er mwyn rhoi sylw i duedd ymwybodol ac anymwybodol.

Mae’r hyfforddiant yn cael ei adolygu fel rhan o gamau gweithredu i gyflwyno’r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn fodlon gyda’r gwasanaethau y maent yn eu cael, rydym yn arolygu preswylwyr yn rheolaidd.
Cyflawnir hyn mewn dwy ffordd – yn fuan ar ôl y darparir gwasanaeth, megis gwaith trwsio neu waith a gynlluniwyd, a bob blwyddyn fel rhan o arolwg bodlonrwydd mwy.

Mae adroddiad perfformiad cryno ar gael ar ein gwefan a chyfeirir ato fel rhan o’n cylchgrawn In Touch.  Mae hon yn un ffordd yr ydym wedi rhoi gwybod i breswylwyr sut mae’r sefydliad yn gwneud.

Ysgrifennwyd hunanwerthusiad eleni cyn y cynhaliwyd arolwg bodlonrwydd Preswylwyr 2025.  Felly, mae’r canlyniadau yr ydym yn eu defnyddio yn dod o arolwg 2023:

  • lefel gyffredinol y bodlonrwydd gyda gwasanaethau oedd 81%,
  • lefel y bodlonrwydd gydag ansawdd y cartref oedd 82%
  • Roedd 88% yn teimlo’n ddiogel yn eu cartref.

Safon Rheoliadol 4 – Caiff tenantiaid eu grymuso a’u cynorthwyo i ddylanwadu ar gynllun a darpariaeth gwasanaethau

Mae Ffordd GTWW yn rhoi preswylwyr wrth wraidd y ffordd y caiff y busnes ei redeg. Mae’n rhan annatod o’r holl weithgarwch ymgysylltu gyda staff ac mae’n cynnig sylfaen i’r dull gweithredu tuag at gynllunio, darparu a gwella gwasanaethau. Mae gwrando ar nifer fawr o breswylwyr er mwyn deall yr hyn sy’n bwysig yn rhan annatod o’n diwylliant.

Mae’r adran er mwyn cymryd rhan ar y wefan, sef “Dweud eich Dweud”, yn helpu preswylwyr i ddeall dull gweithredu y sefydliad tuag at gynnwys preswylwyr a’r ffyrdd o gymryd rhan. Mae gennym Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr hefyd, sy’n cynorthwyo wrth dywys y dull gweithredu tuag at ymgysylltu.

Mae’r Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr. Trwy wrando ar y galw gan breswylwyr, a chael eu hadborth am wasanaethau, caiff safbwyntiau nifer o bobl eu casglu a’u deall. Mae hyn yn ein helpu i siapio ein gwasanaethau a chyflwyno gwelliannau.

Mae mwyafrif helaeth y preswylwyr yn fodlon â’r trefniadau yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2023:

– yn gwrando ar safbwyntiau ac yn gweithredu yn eu cylch (74%),

– cymryd rhan mewn penderfyniadau (66%),

– cael cyfle i ddweud eu dweud yn y gwaith o reoli gwasanaethau (74%).

Mae’r canlyniadau yn y chwartel uchaf, ar sail adroddiad Llywodraeth Cymru, Mai 2023.

Safon Rheoliadol 5 – Mae rhent a thaliadau gwasanaeth yn fforddiadwy i denantiaid presennol a thenantiaid y dyfodol

Mae ein polisi rhent yn seiliedig ar Fodel Rhent Byw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF). Datblygwyd hwn ar ôl cynnal gwaith ymchwil ychwanegol er mwyn deall y goblygiadau ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru ac ar gyfer gwahanol grwpiau o breswylwyr.

Gweithredwyd y polisi rhent mewn perthynas â’r holl denantiaethau newydd er mis Ebrill 2020 ac mae’n cyd-fynd yn llawn gyda’r holl reolau perthnasol a’r canllawiau statudol.

Yr ôl-ddyledion presennol yw:

2021 – 2.65%

2022 – 2.05%

2023 – 1.5%

2024 – 1.35%

2025 – 1.16% 

Safon Rheoliadol 6 – Dull gweithredu strategol tuag at werth am arian

Mae gennym ddull gweithredu sefydledig tuag at Werth am Arian, sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd, bodlonrwydd preswylwyr a sicrhau’r gwerth cymdeithasol uchaf. Caiff gwybodaeth am werth am arian ei chynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol.

Mae mesurau perfformiad yn darparu gwybodaeth am effeithlonrwydd, ar lefel sefydliadol, ac mewn meysydd penodol megis cost adnewyddu ceginau.⁠ Cyflwynir yr adroddiad perfformiad i’r Bwrdd bob chwarter ac i breswylwyr yn y cylchgrawn In Touch.

Dangosodd yr arolwg bodlonrwydd preswylwyr mwyaf diweddar fod 83% o breswylwyr yn fodlon gyda gwerth am arian eu rhent.

Safon Rheoliadol 7 – Rheolaeth a chynllunio ariannol

Mae’r Cynllun Busnes yn nodi’r cynllun ariannol ar gyfer y bum mlynedd nesaf ac mae’r cyfrifon rheoli a’r rhagolwg treigl yn cynnig diweddariad chwarterol am ba mor dda yw ein perfformiad ariannol. Dywedir wrth y Bwrdd am ein sefyllfa ariannol yn ystod pob cyfarfod, a chyflwynir y cyfrifon llawn bob tri mis.

Mae sicrhau bod cronfeydd ar gael i fodloni ymrwymiadau yn y tymor byr a’r tymor canolig yn risg a nodwyd gan y Bwrdd ac y mae’n ei fonitro trwy gyfrwng yr adroddiad perfformiad a sicrwydd chwarterol. Mae’r adroddiad, ynghyd â’r cynllun busnes pum mlynedd, yn dangos nerth y Grŵp yn y tymor hir a bod cyllid digonol ar gael i fodloni’r strategaeth busnes.

Mae’r Bwrdd yn cael adroddiadau chwarterol am gydymffurfiaeth gyda’r amodau y cytunwyd arnynt gyda benthycwyr, gan gynnwys cyfamodau, ac rydym yn cydymffurfio â’r rhain i gyd. Yn ogystal, rydym yn gosod lefelau perfformio mewnol a chaiff y Bwrdd sicrwydd am y rhain trwy gyfrwng yr adroddiadau y maent yn eu cael.

Fel rhan o’r broses cynllunio busnes, cynhelir gweithgarwch profi straen a sensitifrwydd yn erbyn nifer o sefyllfaoedd, yn ogystal â gweithgarwch profi “storm berffaith” i’r torbwynt. Adroddir canlyniadau’r gweithgarwch profi straen i’r Bwrdd er mwyn i hyn ddylanwadu ar ei benderfyniadau. Mae’r rheoliadau ariannol yn gosod cyfyngiadau i staff cyn y bydd gofyn iddynt gael awdurdod pellach er mwyn sicrhau rheolaeth dynn ar y gwariant a helpu i sicrhau bod nodau ariannol yn cael eu cyflawni.

Safon Rheoliadol 8 – Rheolir asedau a rhwymedigaethau yn dda

  • Yn deall asedau a rhwymedigaethau’r sefydliad  
  • Yn defnyddio’r wybodaeth hon wrth wneud penderfyniadau  

Caiff cofrestr Asedau a Rhwymedigaethau manwl ei chadw, sy’n cynrychioli’r sefyllfa ddiweddaraf ac sy’n dangos ble y mae modd gweld cofnodion a gwybodaeth am ein cartrefi. Nodir manylion rhannau allweddol y gofrestr yn y cyfrifon rheoli chwarterol.

Adolygir yr holl stoc tai bob dwy flynedd gan y Grŵp Rheoli asedau, sy’n cynnwys pob Cyfarwyddwr Gweithredol, rheolwyr tai ac eiddo uwch a staff sy’n delio â chwsmeriaid. Mae’r asesiad yn cynnwys adolygiad o ddata ynghylch cyflwr y stoc, perfformiad gosod a rhent a gwybodaeth am y farchnad tai lleol er mwyn cyfrannu at benderfyniadau rheoli a buddsoddi asedau.

Rydym yn dal llawer iawn o wybodaeth am gyflwr y stoc, addasiadau ac effeithlonrwydd ynni. ⁠ Defnyddir hon i ddatblygu rhaglen fuddsoddi tair blynedd dreigl ac mae’n helpu i gyfrannu am ailfodelu a gwaredu.

Safon Rheoliadol 9 – Darparu llety o ansawdd uchel

Mae gennym Strategaeth Rheoli Asedau sy’n ymrwymo i reoli a buddsoddi yn ein cartrefi mewn ffordd effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwerth a’r addasrwydd i breswylwyr yn cael ei gynnal.

Yn ogystal, mae’r Bwrdd yn cael diweddariad datblygu yn ystod pob cyfarfod sy’n sôn am ddatblygiadau a chartrefi newydd, yn ogystal ag adroddiad blynyddol am gydymffurfiaeth ein stoc bresennol gyda SATC.