Beth yw'r mater?

Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl neu os oes trosedd yn digwydd.

Ffoniwch 101 os byddwch yn amau bod hyn yn digwydd yn eich cymuned. Os byddai’n well gennych beidio rhoi eich enw, gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Llinellau Sirol / Ymddygiad Cwcw

Mae Llinellau Sirol yn derm a ddefnyddir er mwyn disgrifio adegau pan fydd grwpiau neu gangiau troseddu trefnedig o ardaloedd trefol fel Llundain, Birmingham a Lerpwl yn ymestyn eu gweithgarwch delio cyffuriau ar draws ffiniau sirol – a elwir yn rhedeg ‘llinell sirol’. Yn aml, bydd y gangiau hyn yn targedu pobl ifanc, plant neu oedolion agored i niwed ac yn trefnu eu bod yn dosbarthu eu cyffuriau.
Weithiau, bydd y delwyr hyn yn cymryd drosodd cartref unigolyn agored i niwed, gan ei ddefnyddio fel safle lleol er mwyn gwerthu a chymryd cyffuriau – a elwir ymddygiad cwcw. A ydych chi wedi sylwi bod rhagor o bobl yn mynd a dod o gyfeiriad rhywun sy’n agored i niwed?