Prynu Cartref Sir Gaerfyrddin

Ydych chi’n awyddus i brynu eich cartref eich hun yn Sir Gaerfyrddin, ond yn methu â fforddio prynu cartref ar y farchnad agored? Gallai’r Cynllun Cymorth Prynu helpu i wneud prynu cartref yn fwy fforddiadwy.

Mae Tai Wales & West, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gynnig Cynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i helpu ymgeiswyr i brynu eiddo addas ar y farchnad agored na fyddent fel arall yn gallu ei fforddio, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i dudalen Cymorth Prynu Sir Gaerfyrddin ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.