Newyddion

06/07/2026

Beicio diogel a sicr

Mae preswylwyr, mewn 11 o’n cynlluniau yn Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr, yn elwa ar storfa feiciau diogel newydd ddiolch i bartneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru.

Rydym wedi partneru â Thrafnidiaeth Cymru i osod siediau beiciau Cyclehoop newydd mewn 11 o’n cynlluniau. ⁠

Mae lle i chwe beic ym mhob sied, gan roi lle saff i breswylwyr storio eu beiciau’n ddiogel yn agos at eu cartrefi.

Dywedodd Victoria Joseph, Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystâd ar gyfer Wrecsam: “Un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu ein preswylwyr pan fyddant yn berchen ar feic yw cael rhywle i’w storio, yn enwedig os ydynt yn byw mewn fflatiau.”

“ Mae’r siediau beiciau yn lle cyfleus, sy’n gwrthsefyll y tywydd lle gallant gloi eu beiciau gan wybod y byddant yn ddiogel.”⁠  
Victoria Joseph, Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystâd

⁠”Maen nhw eisoes yn gwneud gwahaniaeth i breswylwyr sy’n eu defnyddio gan nad oes rhaid iddynt fwyach gael trafferth cario eu beiciau i fyny grisiau a’u cadw yn eu cartrefi. ⁠ Mae ein preswylwyr yn dweud eu bod yn wych.”

⁠Ein cynlluniau sydd â siediau beiciau yw:

Wrecsam: Cadets Court, Battalion Court, Galahad Court, Newton Lodge, Maelor Place, St Marys Close, Barracksfield, Cefn-y-Nant

Pen-y-bont ar Ogwr: Greyfriars Court, Pen Onnen a Rhiw Las

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae prosiect y siediau beiciau yn dangos ein hymrwymiad i Safon Ansawdd Tai Cymru i ddarparu storfa allanol y gellir ei chloi i breswylwyr lle mae angen ac os oes lle addas ar gael. ⁠