Newyddion

21/07/2026

Gwella cartrefi i rai o’n preswylwyr yn y Rhyl

Mae gwelliannau ar y gweill mewn bloc o fflatiau ar lan y môr yn y Rhyl er mwyn helpu preswylwyr i ymdopi â heriau tywydd unigryw. 

Wedi’i leoli mewn safle delfrydol ar lan y môr, mae cynllun y Grange, sy’n cynnwys 41 o fflatiau ar gyfer pobl dros 55 oed, yn wynebu problemau gyda gwynt a thywod yn chwythu i mewn i’r adeilad. Trafododd preswylwyr y materion hyn, ynghyd â materion eraill, gyda’n tîm Gogledd Cymru yn ystod Sgwrs Gymunedol a gynhaliwyd yn y Grange ym mis Mai.  

Yn dilyn eu hadborth, mae ein tîm yng Ngogledd Cymru wedi trefnu i gontractwyr osod cyntedd newydd wrth fynedfa’r bloc fflatiau, a’r gobaith yw y bydd hyn yn atal y tywod rhag chwythu i mewn. Mae’r tîm hefyd yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch ailosod y gatiau i’w maes parcio preifat, gan fod tywod yn rhwystro’r mecanwaith ar hyn o bryd. 

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y staff hefyd gyfle i sgwrsio â phreswylwyr wrth iddynt rannu eu barn am fyw yn y Grange. 

Roedd y digwyddiad yn gyfle i breswylwyr ofyn cwestiynau, codi pryderon a rhannu syniadau ar gyfer gwelliannau fel y gallem ddysgu beth sy’n gweithio’n dda a chael eu barn i helpu i lywio gwasanaethau lleol yn eu cymuned. 

Roedd Linda yn un o’r preswylwyr y buom yn sgwrsio gydag yn ystod ein Sgwrs Gymunedol.  

“Pan ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau cymunedol fel y Grange, mae’n bwysig i breswylwyr godi unrhyw broblemau. Os na chaiff y rhain eu datrys, mae’n effeithio ar bawb sy’n byw yma.  Roedd heddiw yn gyfle i wneud hynny.”  
Preswylwyr, Linda

Dywedodd Claire Jones, Rheolwr Tai Rhanbarthol: “Oherwydd ei leoliad, mae’r Grange yn gynllun unigryw gyda’i heriau unigryw ei hun.  

“Rydym yn cymryd adborth preswylwyr o ddifrif, ac mae’r Sgwrs Gymunedol ddiweddar yn rhan o drafodaethau ehangach a pharhaus rydym wedi bod yn eu cynnal gyda phreswylwyr ynghylch eu cartrefi a’r ardal lle maent yn byw. 

 

“Rydym yn gwrando ar yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym ac yn defnyddio eu sylwadau a’u harsylwadau i wneud gwelliannau.” 
Claire Jones, Rheolwr Tai Rhanbarthol