Newyddion

24/10/2025

Ein tîm datblygu yn concro Tri Chopa Cymru ar gyfer elusen

Development team group image

Ein tîm datblygu yn concro Tri Chopa Cymru ar gyfer elusen

Maen nhw’n fwy cyfarwydd â llunio cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd nag â dringo copaon. Ond mewn 24 awr, fe wnaeth grŵp o’n staff Datblygu goncro Her y Tri Chopa Cymru a chodi dros £3,000 ar gyfer ein her 60 am 60.”

Mountain imageFe wnaethon nhw gryn dipyn o gamau – 17 milltir o gerdded mynydd – a mwynhau golygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd wrth iddyn nhw gychwyn ar Yr Wyddfa, symud ymlaen i Cadair Idris a gorffen ar Ben y Fan wrth i’r haul fachlud. ⁠

Ymunon nhw ag un o’n contractwyr, Castlemead Group Ltd, ar gyfer yr her, sy’n rhan o ymgyrch codi arian a lansiwyd gennym eleni i ddathlu 60 mlynedd o ddarparu cartrefi fforddiadwy.   ⁠

Bydd yr arian a godir yn cael ei rannu rhwng ein pedair elusen staff- Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, Parlys yr Ymennydd Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis. ⁠ ⁠  ⁠

Freya Whitton