Rhedwyr yn codi dros £3300 i elusennau yn Hanner Marathon Caerdydd
Codwyd dros £3300 ar gyfer elusennau gan redwyr o Grŵp Tai Wales & West wrth iddynt ymgymryd â’r her o gwblhau Hanner Marathon Caerdydd.
Roedd 19 o gydweithwyr o Ogledd, De a Gorllewin Cymru ymhlith y 27,500 o unigolion a wnaeth gymryd rhan yn y ras eleni ym mhrifddinas Cymru.
Roedd ysbrydoliaeth ddeuol i’r tîm o redwyr – codi arian ar gyfer pedair elusen staff y cwmni, wrth gystadlu mewn Her Fusnes hefyd.
Cafwyd rhoddion gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cydweithwyr, ffrindiau, teulu a busnesau a chyflenwyr y mae Grŵp Tai Wales & West yn gweithio gyda nhw.
Rhennir yr arian yn gyfartal rhwng Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Cerebral Palsy Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.
Roedd Gareth Thomas, Pennaeth Datblygu ar gyfer Gorllewin Cymru, wedi dwyn y tîm ynghyd fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Tai Wales & West yn 60 oed, lle y mae staff wedi bod yn cwblhau cyfres o heriau codi arian.
Dywedodd Gareth: “Rydw i mor falch o bawb. Roedd ein tîm yn cynnwys cymysgedd o redwyr profiadol, rhai yn dychwelyd i redeg am y tro cyntaf ers blynyddoedd a rhai yn rhedeg am y tro cyntaf.
“Mae rhedeg hanner marathon yn dipyn o her, beth bynnag fo’ch profiad, felly roedd hwn yn gyflawniad arbennig.
“Y peth pwysicaf yw ein bod wedi codi arian hanfodol ar gyfer ein helusennau staff, fel y gallant barhau i gyflawni’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.”
Ychwanegir yr arian a godwyd gan y tîm rhedeg i gyfanswm yr arian y mae Grŵp Tai Wales & West wedi’i godi, sydd bron yn £10,000 ers dechrau’r flwyddyn.
Mae modd cyfrannu o hyd at ymdrechion tîm Hanner Marathon Caerdydd trwy droi at https://www.justgiving.com/page/wwhhalf
Hanner Marathon Caerdydd yw’r digwyddiad cyfranogaeth dorfol mwyaf yng Nghymru, gan ddenu 27,500 o redwyr yn 2025.
