Newyddion

29/01/2021

Stori Cara

Ar ddechrau 2019, roedd Cara (nid ei henw go iawn), un o breswylwyr Tai Wales & West, mewn argyfwng mawr. Roedd filoedd mewn dyled ar ôl methu talu biliau ac roedd mewn perygl o golli ei chartref gan nad oedd wedi talu ei rhent ers blynyddoedd.

Yna un diwrnod, digwyddodd rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’w lles ac a fyddai’n ei helpu i gadw ei chartref.

Dyma ei stori….

“Roeddwn mewn lle tywyll iawn. Roedd fy nyledion yn cynyddu. Byddai amlen frown swyddogol arall yn cyrraedd yn y post bob dydd. Arferwn eu rhoi mewn drôr heb eu hagor hyd yn oed. Roedd gormod o ofn arnaf.

Byddai beilïod a chasglwyr dyledion yn curo ar fy nrws. Roedd yn teimlo fel fe baent yn ceisio torri i mewn, felly byddwn yn cuddio’n ofnus.

“Rydym yn gwybod eich bod chi yna. Man a man i chi agor y drws, bydd yn rhaid i chi dalu’r arian sy’n ddyledus i ni yn y diwedd,” arferent weiddi trwy’r blwch llythyrau.

“Roedd pob un ohonynt eisiau arian. Arian nad oedd gennyf i. Roeddwn yn gwybod na ddylwn osgoi pawb, ond roeddwn mewn lle mor dywyll fel na allwn weld ffordd allan. Roedd hi’n haws cuddio.”

Roeddwn yn dwli ar fy fflat. Roeddwn wedi byw yno ers sawl blynedd. Ond dechreuodd fy mywyd fynd o chwith ar ôl i mi golli fy swydd. Roeddwn yn ei chael hi’n anodd talu fy miliau. Roedd fy ôl-ddyledion rhent yn cynyddu. Roedd fy nyledion mor fawr fel bod y sefyllfa yn dechrau effeithio ar fy iechyd. Roedd y gofid yn llethol.

Roeddwn yn dioddef gorbryder ac iselder ac yn colli pwysau. Ni fyddwn yn codi o’r gwely ran fwyaf o ddiwrnodau. Ni allwn wynebu’r diwrnod.

“Yna un diwrnod glaniodd amlen ar y mat wrth y drws. Roeddwn yn disgwyl rhagor o newyddion drwg a bygythiadau, ond roedd hwn yn edrych yn wahanol.”

Nid oedd llythrennau coch mawr bygythiol ar y tu blaen, dim ond fy enw mewn llawysgrifen daclus mewn inc glas.

Agorais yr amlen yn betrusgar. Roedd wrth fenyw a oedd yn gweithio i Dai Wales & West. Roeddwn yn synnu oherwydd roeddwn i wedi bod yn osgoi’r holl alwadau gan fy Swyddog Tai.

“Rydw i’n dymuno eich helpu i gadw eich cartref, ond mae angen i ni siarad,” ysgrifennodd.

“A fyddem yn gallu cwrdd yn rhywle diogel?”

Roeddwn mewn perygl o golli popeth ta beth, felly nid oedd gennyf unrhyw beth i’w golli.

Cytunais gyfarfod gyda hi mewn swyddfa gyfagos. Pan ddaeth

y diwrnod, roeddwn yn teimlo mor ofidus fel y bu bron i mi benderfynu peidio mynd. Ond roedd rhywbeth yn dweud wrthyf y byddai hwn yn wahanol.

Cyrhaeddais y swyddfa ac agorodd y fenyw y drws gan wenu, “Sut wyt ti Cara? Sut mae’r teulu?” Dywedais wrthi. Ac wrth i mi sgwrsio yn nerfus, gwrandawodd hi arnaf. Po fwyaf y byddwn yn siarad, y mwyaf cyffyrddus yr oeddwn yn teimlo.

Am y tro cyntaf ers amser hir iawn, roedd rhywun yn gwrando arnaf. Dywedais wrthi am fy sefyllfa, sut yr oeddwn wedi colli fy swydd ac yn ceisio chwilio am waith.

“Rydw i’n teimlo mor aneffeithiol,” clywais fy hun yn dweud. “Nid ydw i’n dymuno colli fy nghartref, ond nid ydw i’n gwybod ble i droi. Mae gwir angen help arnaf.”

Wrth i mi ddweud y geiriau, synnais fy hun. Nid oeddwn i fyth wedi cyfaddef hyn i’m hun, heb sôn am i rywun arall.

“Ac rydw i’n dymuno dy helpu di,” gwenodd. “Ond mae angen i ni wneud hyn gyda’n gilydd. Dim cuddio.”

Trefnodd y fenyw y byddwn yn cyfarfod gyda Swyddog Cymorth Tenantiaeth o WWH. Roeddwn yn synnu faint yr oeddent yn gwybod am ddyledion a budd- daliadau a’r mannau y gallwn droi am help.

“Ni chefais fy marnu, roedden nhw yn fy neall, a sylweddolais nad oeddwn yn wynebu hwn ar fy mhen fy hun. Gweithiais gyda hi ac wrth i mi wynebu fy mhroblemau, roedd hi wedi fy nghynorthwyo i gael yr help ariannol a meddygol yr oedd ei angen arnaf.”

O edrych yn ôl, ni ddylwn i fod wedi gadael i bethau waethygu gymaint. Ond erbyn hyn, rydw i’n gweithio i gyrraedd lle gwell.

Yn raddol, rydw i’n delio gyda fy nyledion. Mae fy iechyd yn gwella hefyd.

Mae wedi bod yn dipyn o daith, ychydig yn anodd ar brydiau, ond mae wedi bod yn werth chweil. Rydw i’n teimlo fy mod yn dechrau gweld y golau.

“Pe byddai unrhyw un mewn sefyllfa debyg yn gofyn i mi am gyngor, byddwn yn dweud ‘peidiwch ag anwybyddu’r help a gynigir. Siaradwch â’ch Swyddog Tai neu rywun yn WWH. Mae’r help yn help go iawn… nid ydych chi ar eich pen eich hun.”

 

Sut allwn ni helpu

Mae’n Swyddogion Cymorth Tenantiaeth a’n staff tai profiadol yn barod i helpu preswylwyr

fel Cara sy’n cael anawsterau ariannol.

Gallant helpu i:

  • Ddelio gyda dyledion
  • Rhoi cyngor am fudd- daliadau
  • Helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich arian

“Ein prif nod yw helpu preswylwyr i gadw eu cartrefi” dywedodd Swyddog Cymorth Tenantiaeth.  “Ond ni allwn helpu oni bai bod pobl yn fodlon siarad gyda ni a bod yn agored ac yn onest am eu problemau.

Gallwn drefnu cysylltu â nhw mewn unrhyw ffordd y byddant yn dymuno.

Nid oes angen teimlo cywilydd neu ofn. Beth bynnag fo’r sefyllfa, byddwn ni wedi gweld gwaeth.

Os nad ydym yn gwybod bod problem, ni allwn helpu.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk
02920 415368 / 07484 911100
Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here