Newyddion

29/01/2021

Diolch i Dai Wales & West, mae gan Ganolfan Blant yn Aberteifi le i dyfu

Mae Canolfan Blant Jig-So yn Aberteifi yn bwriadu lansio darpariaeth lles a mentrau newydd i deuluoedd lleol a’u plant ifanc, diolch i gymorth gan y darparwr tai, Tai Wales & West.

Mae’r sefydliad wedi darparu cyllid a llafur trwy ei Rhaglen Cymorth Cymunedol er mwyn helpu’r ganolfan i adeiladu cyfleusterau storio newydd y tu allan, gan ryddhau lle yn eu lleoliad newydd er mwyn darparu rhagor o brosiectau i deuluoedd lleol.

Mae’r Rhaglen Cymorth Cymunedol yn gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr WWH er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol lle y maent yn gweithio.  Bu staff o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Grŵp WWH yn helpu i osod sylfaen ar gyfer y sied, a brynwyd gan ddefnyddio cyllid o’r rhaglen.

Dywedodd Linda Grace, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Blant Jig-So:  “Mae lle storio wastad yn broblem, ond diolch i’r cyllid gan Dai Wales & West, rydym wedi gallu adeiladu sied storio newydd, lle y bydd modd storio’r holl offer chwarae yr ydym yn ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau amgylcheddol a chwarae yn yr awyr agored.

“Mae’r adnodd hwn mor werthfawr i’n canolfan.  Mae’n rhoi mwy o le i ni ddatblygu ardal ar gyfer mentrau iechyd emosiynol a lles newydd.  Mae’n diolch yn fawr i Dai Wales & West, rydym yn gwerthfawrogi’r cymorth, a bydd hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r holl deuluoedd yr ydym yn eu cynorthwyo.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.