Newyddion

08/11/2023

Staff WWH yn torchi eu llewys i helpu garddwyr cymunedol

Roedd staff o Dai Wales & West wedi neilltuo amser i helpu grŵp o arddwyr cymunedol yng Nghaerdydd i baratoi ar gyfer gwaith plannu y gaeaf.


Mae Gardd Gymunedol Llaneirwg yn dwyn ynghyd preswylwyr Tai Wales & West a chymdogion i dyfu ffrwythau, blodau a llysiau.  Maent yn cyfarfod bob dydd Gwener a, dros y blynyddoedd, mae sawl cyfeillgarwch wedi cael eu meithrin law yn llaw â’r bwyd, a rennir ymhlith cymdogion sy’n byw yn yr ardal.

Ers y pandemig, fodd bynnag, mae’r garddwyr yn dweud eu bod wedi ei chael hi’n anodd ymdopi â’r gwaith cynnal a chadw rheolaidd felly penderfynwyd troi at staff Tai Wales & West am help. 

Gwirfoddolodd pedwar aelod o staff a buont yn treulio’r diwrnod yn palu ac yn chwynnu yn yr ardd gymunedol, gan helpu’r preswylwyr i baratoi ar gyfer y gwaith plannu yn yr hydref a’r gaeaf. 

Roedd y diwrnod yn rhan o’n cynllun Diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl, lle y mae WWH yn annog pob aelod o staff i gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau y flwyddyn, am dâl, i wneud gwir wahaniaeth i’n preswylwyr a’n cymunedau. 

Mae Glenys Vandervolk yn un o breswylwyr WWH ac yn un o aelodau gwreiddiol y gerddi, ac mae’n rhannu ei gwybodaeth am arddio gydag aelodau eraill yr ardd yn rheolaidd.  

Dywedodd:  “Rydym mor falch bod staff wedi dod atom i’n helpu.  Yn ystod y pandemig, roedd yr ardd wedi tyfu’n wyllt ac, ers hynny, rydym wedi cael anhawster dal i fyny â’r gwaith. 

“Diolch i’r help a gawsom gan staff Tai Wales & West, gallwn fwrw ati i dyfu ein llysiau ein hunain ar gyfer ein ciniawau Nadolig.”
Preswylwyr WWH Glenys Vandervolk


Dyma fwy o gyngor garddio gan Glenys ar gyfer yr hydref
 

Yr Hydref yw’r amser i ddechrau diogelu’r planhigion tyner a bregus hynny rhag y tywydd oer sydd ar y gorwel. Mae’n syniad da eu rhoi y tu mewn dros y gaeaf neu eu lapio mewn cnu planhigion,  sydd ar gael mewn siopau garddio neu DIY neu ar-lein, er mwyn atal y  rhew rhag eu lladd. 

Mae’n adeg da i ddechrau plannu llysiau hefyd, megis tatws, pys, winwns, garlleg a ff a llydain, yn  enwedig os ydych yn dymuno tyfu eich cinio Nadolig. 

 Yn lle prynu tatws hadog, gallwch wneud eich rhai eich hun gydag unrhyw daten sydd gennych yn eich basged lysiau. Dylech eu torri yn eu hanner a gadael iddynt sychu am ychydig ddiwrnodau yn eich cegin neu ar sil ff enestr. Yna, gallwch eu plannu yn yr ardd neu mewn potiau. 

 Os byddai’n well gennych blannu blodau’r Gwanwyn yn eich poti au, byddaf i wastad yn plannu bylbiau mewn haenau. 

  •  Yn gyntaf, rhowch haen o gompost yng ngwaelod eich pot. Yna, plannwch haen o fylbiau ti wlipau.  
  •  Ychwanegwch haen arall o gompost a phlannwch y bylbiau cennin Pedr.  Haen arall o gompost, yna plannwch fylbiau crocysau.  
  • Gorchuddiwch y rhain gyda chompost, yna yn olaf, plannwch rai bylbiau lilis bach gwynion, cyn gorff en gyda haen o gompost ar eu pen. 
  •  Ym mis Ionawr neu Chwefror, y lilis bach gwynion fydd y blodau cyntaf i ddod allan o’r ti r, a ddilynir gan y crocysau, y cennin Pedr ac yn olaf, ond nid y lleiaf, y ti wlipau, gan gynnig pot o fl odau prydferth y Gwanwyn i’w hedmygu tan fi s Mai. 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.