Rhodd o £60,000 i gefnogi elusennau iechyd meddwl yng Nghymru

Bydd dwy elusen sy’n darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol i gymunedau a phlant ysgol yng Nghymru yn rhannu rhodd o £60,000 gan Grŵp Tai Wales & West.
Bydd Adferiad a Place2Be yn derbyn £10,000 y flwyddyn yr un am y tair blynedd nesaf.
Mae Adferiad yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ag iechyd meddwl, dibyniaeth ac anghenion cymhleth, gan eu helpu i gyflawni gwell ansawdd bywyd. Mae ganddynt swyddfeydd yng Ngogledd a De Cymru.
Mae Place2Be yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant mewn 12 ysgol yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad cwnselydd cymwys ym mhob ysgol.
Dywedodd Peter Harding, Cadeirydd y Bwrdd yn Nhai Wales & West: “Yr argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru yw un o’r materion mwyaf brys sy’n wynebu’r genedl, felly mae’n briodol ein bod wedi dewis cefnogi dwy elusen sy’n gweithio yn y maes hwn eleni.
“Mae Tai Wales & West yn fwy na darparwr tai yn unig. Mae ein staff yn gweithio gyda phreswylwyr yn ein cymunedau wrth iddynt fyw eu bywydau dyddiol. Y bydd rhai, efallai, yn profi trafferthion gydag iechyd meddwl sydd angen cymorth arbenigol, felly rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw gwaith elusennau fel Adferiad a Place2Be.
“Mawr obeithiwn y bydd ein rhoddion yn mynd rhywfaint o ffordd i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas ar adeg pan fyddant ei angen fwyaf.”
“Yr argyfwng iechyd meddwl yng Nghymru yw un o’r materion mwyaf brys sy’n wynebu’r genedl, felly mae’n briodol ein bod wedi dewis cefnogi dwy elusen sy’n gweithio yn y maes hwn eleni.
Dywedodd Peter Harding, Cadeirydd y Bwrdd yn Nhai Wales & West
Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad: “Wrth i gyllid ddod yn fwy prin, mae elusennau yn ei chael hi’n anoddach i ddarparu gwasanaethau heblaw i’r rhai y maent wedi’u contractio i’w ddarparu.
“Bydd y rhodd hael hon yn ein helpu i fod yn fwy hyblyg a darparu cefnogaeth ychwanegol i unigolion lle rydyn ni’n gweld angen.”

Prif Weithredwr Adferiad, Alun Thomas, yn siarad â staff o Grŵp Tai Wales & West
Dywedodd Catherine Roche, Prif Weithredwr Place2Be : “Diolch i gefnogaeth hynod hael Grŵp Tai Wales & West, gallwn nawr gyrraedd plant gyda’r cymorth sydd ei angen arnynt pan all wneud y gwahaniaeth mwyaf.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau ysgolion, gallwn adeiladu’r rhwyd o gefnogaeth o amgylch plant a phobl ifanc – drwy arfogi athrawon a rhieni gydag arbenigedd, meithrin cydnerthedd plant a darparu cymorth mwy arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth trwy ein gweithwyr proffesiynol medrus.
“Gydag 1 o bob 5 o blant bellach yn profi heriau iechyd meddwl, mae’r gefnogaeth hon yn golygu y gallwn gamu i’r adwy yn gynnar i feithrin lles emosiynol, meithrin sgiliau ymdopi ac atal brwydrau gydol oes, a thrwy hynny greu dyfodol lle mae pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei ddeall ac yn gallu ffynnu.”
