Newyddion

22/10/2019

Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey, yn ennill gwobr Menyw y Flwyddyn yng Ngwobrau Menywod ym maes Tai 2019

Mae’n Prif Weithredwr Grŵp, Anne Hinchey, wedi ennill gwobr Menyw y Flwyddyn mewn seremoni arbennig ar gyfer y DU gyfan i ddathlu cyflawniadau menywod ym maes Tai.

Roedd Anne yn un o blith naw o fenywod ar y rhestr fer yng nghategori Menyw y Flwyddyn:  Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Menywod ym maes Tai a gynhaliwyd ym Manceinion ar 10 Hydref 2019.

Roedd y beirniaid yn falch o weld y ffordd y mae Anne yn rhoi’r pethau sy’n bwysig i 22,000 o breswylwyr Tai Wales & West wrth wraidd popeth y mae’r sefydliad yn ei wneud, a’r ffordd y mae hi’n ysbrydoli eraill yn WWH i wneud yr un fath.

Ers iddi ddod yn brif weithredwr benywaidd cyntaf WWH yn 2006, mae wedi newid ffyrdd o weithio i fod yn sgyrsiau agored, gan ddarganfod yr “hyn sy’n bwysig” i’r preswylwyr yn hytrach nag ystyried gwasanaethau o bersbectif y gost.

Dan arweinyddiaeth Anne, mae WWH wedi

  • dyblu ei rhaglen ddatblygu i adeiladu 1,500 yn fwy o gartrefi dros y dair blynedd nesaf
  • cychwyn ar raglen fuddsoddi sy’n werth £35 miliwn, gan gyflogi contractwyr lleol i foderneiddio cartrefi WWH a’i gwneud yn haws ac yn rhatach i breswylwyr eu gwresogi
  • buddsoddi arian yn ôl mewn cymunedau er mwyn cynorthwyo preswylwyr
  • sefydlu Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol Tai Wales & West yn 2008 er mwyn dathlu a gwobrwyo cyflawniadau ei phreswylwyr

 “Mae ennill y wobr hon yn gymaint o anrhydedd i mi, ond hefyd, i bawb yn Nhai Wales & West.  Ni allwn arwain gwell sefydliad.”

Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH

Dywedodd Sharon Lee, un o Aelodau Bwrdd WWH, bod gweithio gydag Anne yn brofiad “hynod o ysbrydoledig”.

Ychwanegodd Sharon:  “Mae Anne yn Brif Weithredwr Grŵp ac yn arweinydd eithriadol.  Mae’n fwy na swydd.  Mae hi’n byw ac yn credu’n angerddol yn y dymuniad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru.  Un o’i chryfderau pennaf yw ei bod yn llwyddo i sicrhau’r gorau mewn eraill.  Mae hi’n gwneud lle i eraill ddisgleirio.”

Mae hi’n byw ac yn credu’n angerddol yn y dymuniad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru.”

Sharon Lee, Aelodau Bwrdd WWH

Mae Gwobrau Menywod ym maes Tai yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau menywod eithriadol sy’n gweithio ym maes tai ac fe’u cynhelir mewn partneriaeth ag Inside Housing a’r Sefydliad Tai Siartredig.

Rhestrir yr holl rai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yma.

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.