Newyddion

07/11/2025

“Pan gerddais i mewn i’m fflat, roedd yn teimlo fel cartref i mi”

Eileen gyda Gemma, Swyddog Tai

Eileen gyda Gemma, Swyddog Tai

Mae Eileen wedi byw yng Nghwrt Hope, Caerdydd am gyfnod hwy nag unrhyw un o’i chymdogion ac mae’n dweud ei fod wastad wedi teimlo fel ei chartref.

Roedd hi’n 67 oed pan symudodd i mewn gyda’i gŵr yn 2000. Roeddent wedi byw yn eu cartref teuluol yn ardal Cathays am dros bum degawd ac wedi magu eu tri o blant yno.

“Daeth amser pan nad oedd fy ngŵr yn gallu cerdded i fyny’r grisiau yn ein cartref mwyach, felly argymhellodd ein meddyg y dylem symud i Gwrt Hope.

“Roeddem wedi byw yn ein cartref am 50 mlynedd, felly roedd hi’n anodd i ni symud yn y lle cyntaf.

“Rhoddom ein henw i lawr am fflat ac arhosom am ddwy flynedd i fflat fod ar gael.

Roedd hynny 25 mlynedd yn ôl, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Eileen, sydd bellach yn 92 oed, wedi gwneud nifer o ffrindiau yn y cynllun. Bu farw ei gŵr wyth mlynedd yn ôl, ond mae Eileen wedi parhau i werthfawrogi cyfeillgarwch a’r cyfle i gyfarfod yn rheolaidd gyda’i chymdogion.

“Pan symudom i mewn yn gyntaf, cawsom ein gwahodd i lawr i’r lolfa a chawsom ein cyflwyno i bobl arall a oedd yn byw yno. Cawsom groeso mor gynnes. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwneud rhai ffrindiau da.

“Mae pawb yma yn hyfryd a chyfeillgar iawn. Ni allwn ofyn am gymdogion gwell.

“Pan fydd pobl yn symud i mewn yma, ni fyddant yn dymuno gadael gan bod pawb mor hyfryd.

“Pryd bynnag y byddaf yn mynd allan, ni allaf aros i ddychwelyd gartref.”

“Rydw i’n cofio y tro cyntaf pan ddangoswyd y fflat i ni. Cerddais i mewn, edrychais allan trwy’r ffenestr a throi at fy ngŵr a dweud, mae’n teimlo fel cartref.”

Freya Whitton