Newyddion

17/03/2022

Gwaith dymchwel ar fin cael ei gwblhau ar safle hen Ysbyty Aberteifi

Disgwylir i’r gwaith i ddymchwel rhannau o safle hen Ysbyty Aberteifi gael ei gwblhau cyn pen mis, a fydd yn golygu y gall cam nesaf y datblygiad gychwyn.

Y darn olaf i’w ddymchwel fydd y wal ar hyd y fynedfa i’r dref ym Mhont-Y-Cleifion, a elwir yn “wal y carchar” yn lleol.  Dylai’r gwaith hwn ddigwydd ymhen ychydig ddyddiau, ac er mwyn cadw’r safle yn ddiogel, gosodir byrddau pren yno tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

Er mis Tachwedd, mae contractwyr Tai Wales & West (WWH) wedi bod yn paratoi’r safle er mwyn datblygu 34 o fflatiau ecogyfeillgar ac sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon ar gyfer pobl leol, ynghyd â swyddfeydd newydd ar gyfer staff WWH, a safle rhanbarthol ar gyfer ei chwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Cedwir y Priordy gwreiddiol, a bydd hwn yn rhan ganolog o’r prosiect.  Caiff ei drawsnewid yn gaffi cymunedol a swyddfeydd, a fydd yn cynnwys gerddi cyhoeddus a llwybrau a fydd yn cael eu creu fel rhan o’r datblygiad ehangach.  [LH1]

Cyn y gallai unrhyw waith dymchwel gychwyn, cyflogodd WWH ymgynghorydd tirlun a meddyg coed i gynnal arolwg manwl o’r holl goed ar y safle, a bu’n gweithio gydag ecolegydd Cyngor Ceredigion a swyddogion Eglwys Santes Fair i gael caniatâd i waredu rhai o’r coed.  Roedd hyn yn cynnwys rhai coed a oedd wedi pydru a Leylandii ar hyd y perimedr.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Shayne Hembrow:  “Cedwir yr holl ddeunyddiau o’r gwaith dymchwel ar y safle a byddant yn cael eu hailddefnyddio er mwyn codi lefelau ar y safle i leihau risg llifogydd yn y dyfodol.”

“Cuddiwyd y Priordy ers cymaint o flynyddoedd, ond mae’n gyffrous gweld yr adeilad gwreiddiol yn ymddangos, a fydd yn ganolbwynt y prosiect hwn.  Pan dynnir y wal ar hyd Pont Y Cleifion i lawr, bydd yn edrych yn wahanol iawn a gydag amser, byddwn yn ailosod y palmant yno fel y bydd hi’n haws i bobl gerdded i mewn i’r dref.”
Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Shayne Hembrow

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.