Ein tîm datblygu yn concro Tri Chopa Cymru ar gyfer elusen

Ein tîm datblygu yn concro Tri Chopa Cymru ar gyfer elusen
Maen nhw’n fwy cyfarwydd â llunio cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd nag â dringo copaon. Ond mewn 24 awr, fe wnaeth grŵp o’n staff Datblygu goncro Her y Tri Chopa Cymru a chodi dros £3,000 ar gyfer ein her 60 am 60.”
Fe wnaethon nhw gryn dipyn o gamau – 17 milltir o gerdded mynydd – a mwynhau golygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd wrth iddyn nhw gychwyn ar Yr Wyddfa, symud ymlaen i Cadair Idris a gorffen ar Ben y Fan wrth i’r haul fachlud.
Ymunon nhw ag un o’n contractwyr, Castlemead Group Ltd, ar gyfer yr her, sy’n rhan o ymgyrch codi arian a lansiwyd gennym eleni i ddathlu 60 mlynedd o ddarparu cartrefi fforddiadwy.
Bydd yr arian a godir yn cael ei rannu rhwng ein pedair elusen staff- Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, Parlys yr Ymennydd Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.
