Newyddion

18/02/2021

Datgelir y cynlluniau ar gyfer safle Ysbyty Aberteifi mewn digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus ar-lein

Bydd penseiri a gomisiynwyd gan Dai Wales & West i lunio cynigion ar gyfer adfywio safle Ysbyty Aberteifi yn datgelu eu dyluniadau yn ystod digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Yn dilyn cyfres o sesiynau galw heibio i’r cyhoedd a gynhaliwyd fis Chwefror y llynedd ac a fynychwyd gan dros 150 o bobl, penderfynodd y darparwr tai gyflogi cwmni penseiri Gaunt Francis, cwmni o Gymru sydd wedi ennill gwobrau.  Y brîff a roddwyd i’r penseiri oedd cyflwyno dyluniadau er mwyn creu 35 o gartrefi-eco i bobl hŷn a swyddfeydd ar gyfer hyd at 60 o staff.

Mae’r dyluniadau’n adlewyrchu gwaith ymchwil y pensaer ynghylch hanes y safle a’r dref, yn ogystal â’r sylwadau niferus a’r adborth a gafwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.  Cyflwynir y dyluniadau hyn ar gyfer y safle mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd o ddydd Iau 25 Chwefror tan ddydd Sadwrn 27 Chwefror.

Cynhelir y digwyddiadau dros ‘Zoom’ a bydd pob sesiwn yn dechrau am 10am bob dydd, gyda chyflwyniad a fideo gan y penseiri, a ddilynir gan sesiynau “Cyfarfod y Pensaer” y bydd modd archebu lle ar eu cyfer ymlaen llaw, rhwng 11.15am a 1.30pm.

Dywedodd Alan Francis, Cyfarwyddwr yn Gaunt Francis:  “Bydd hwn yn gyfle i unrhyw un y mae ganddynt ddiddordeb i ddysgu mwy am y cynllun ac i archebu sesiwn ymlaen llaw i siarad yn uniongyrchol gydag aelodau o dîm y penseiri.”

Cynhelir slotiau 15 munud y bydd modd eu harchebu ymlaen llaw, yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Am wybodaeth bellach am y digwyddiad, gan gynnwys sut i archebu slot Cyfarfod y Penseiri, trowch at dudalen blog Penseiri Gaunt Francis gauntfrancisarchitects.blog

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Shayne Hembrow:  “Dewisom benseiri Gaunt Francis i baratoi dyluniadau gan eu bod wedi gweithio ar nifer o brosiectau amlwg sydd wedi ennill gwobrau ac y maent wedi defnyddio adeiladau hanesyddol.  Roeddem yn dymuno gweld yr hyn y byddai modd ei gyflawni ar y safle o ystyried ei gyfyngiadau a dymuniad nifer o bobl i gadw adeilad gwreiddiol priordy John Nash pe bai modd.  Credwn bod eu syniadau a’u dyluniadau yn rhai cyffrous iawn.

“Rydym wedi cysylltu â chynghorwyr lleol a sefydliadau eraill a oedd wedi mynegi diddordeb yn y safle, a mawr obeithiwn y bydd cymaint o bobl leol ag y bo modd yn ymuno â’r sesiynau byw ac yn mynegi eu barn.”

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.