Newyddion

29/08/2019

Athletwyr iau yn paratoi am lwyddiant gyda chymorth Tai Wales & West

Mae TWW wedi rhoi £958 ar ffurf nawdd i Glwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn ei alluogi i brynu offer er mwyn helpu ei  aelodau iau i hyfforddi am bencampwriaethau yn y dyfodol.

Defnyddir y nawdd i brynu offer megis clwydi, disgiau, marcwyr naid hir, watshis amseru a DVD hyfforddi ar gyfer y tîm Iau, y mae’r ystod oedran yn amrywio o 9 oed i fyny.

“Mae’n dyled yn fawr i Dai Wales & West.  Bydd eu nawdd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n hathletwyr iau a bydd yn eu helpu i ddatblygu.”
Jeff Roberts, Hyfforddwr Sbrintio Iau

“Mae’n clwb yn cynnwys rhwng 100 a 150 o aelodau iau sy’n cymryd rhan mewn campau ar y trac a champau maes gyda threfi a dinasoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y DU.  Bydd yr aelodau iau yn mynd ymlaen i ennill pencampwriaethau yn rheolaidd.  Gyda’r offer newydd hwn, mawr obeithiwn annog mwy fyth o bobl ifanc i gymryd rhan.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH:  “Mae gan Glwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr hanes da o ddarparu gweithgareddau i ysbrydoli a chymell pobl ifanc.  Mae’n bleser gweld yr athletwyr ifanc yn cael hwyl, yn gwneud ffrindiau ac yn gweithio fel tîm wrth iddynt hyfforddi’n galed a chystadlu mewn amrywiaeth o gampau ar y trac a champau maes.

“Mae clybiau fel Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn hanfodol i’r gymuned.  Mae’r hyfforddwyr gwirfoddol yn esiamplau gwych ac maent yn dangos ymrwymiad go iawn i’r clwb a’i aelodau iau.  Mae WWH yn falch iawn o’u cefnogi a mawr obeithiwn y byddant yn parhau i gyflawni a llwyddo.”

WWH has donated £958 in sponsorship to Bridgend AC to buy equipment to help its young members train for future championships.

The sponsorship will be used to buy equipment such as hurdles, discus, long jump markers, stop watches and a training DVD for the Junior team, whose ages range from 9 upwards.

Junior Sprint Coach Jeff Roberts said: “We can’t thank Wales & West Housing enough. Their sponsorship will make a great difference to our junior athletes and help them develop.

“Our club has between 100-150 junior members who take part in track and field events with other towns and cities in Wales and across the UK.  The juniors regularly go on to win championships. With this new equipment, we hope to encourage even more young people to take part.”

WWH Group Chief Executive Anne Hinchey said: “Bridgend AC has a great track record of providing motivational and inspirational activities for young people. It’s a pleasure to see the young athletes having fun, making friends and working as a team as they train hard and compete in a variety of track and field events.

“Clubs like Bridgend AC are vital to the community. The volunteer coaches are great role models and show real commitment to the club and its junior members. WWH is delighted to support them and hope they continue to achieve and succeed.”

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.