Newyddion

17/06/2022

Age Cymru yw’r elusen newydd a ddewiswyd gan y Bwrdd

Bydd rhodd o £30,000 yn helpu Age Cymru i ariannu gwasanaeth cynghori a chyfeillgarwch dros y ffôn dros y dair blynedd nesaf, gan helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghymru.

Bydd yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn cael £10,000 y flwyddyn am dair blynedd yn olynol gan Fwrdd Grŵp Tai Wales & West.

Mae’n un o ddwy elusen newydd y bydd Bwrdd y darparwr tai yn eu cynorthwyo yn y fath ffordd yn 2022.

Mae gwasanaeth ‘Ffrind mewn Angen’ Age Cymru yn cynnig galwadau ffôn cyfeillgarwch am ddim i bobl 70 oed a hŷn.

Lansiwyd y gwasanaeth yn ystod pandemig Covid-19 yn wreiddiol, ac mae wedi cynorthwyo dros 2000 o bobl hŷn hyd yn hyn.

Bydd y cyllid gan Fwrdd Grŵp Tai Wales & West yn galluogi’r gwaith hwn i barhau, ynghyd â’u gwasanaeth cyngor a gwybodaeth.

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: “Mae’r rhodd hon yn gyfraniad arwyddocaol i rai o wasanaethau rheng flaen allweddol yr elusen.  Mae ein galwadau cyfeillgarwch yn darparu cysylltiad hanfodol i bobl hŷn sy’n byw ar ben eu hunain.  I rai unigolion, hon fydd yr unig sgwrs y byddant yn ei chael gyda rhywun arall yr wythnos honno.

“Ac o ystyried bod yr argyfwng costau byw yn bryder allweddol, mae angen Cyngor Age Cymru yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cyngor a’r wybodaeth gywir ynghylch eu hamgylchiadau. Bydd pobl hŷn ar draws Cymru yn cael budd o’r arian hwn, a diolchwn i Dai Wales and West am estyn allan i gynorthwyo pobl hŷn yn ystod cyfnod mor heriol.”

Mae’r rhodd hon yn gyfraniad arwyddocaol i rai o wasanaethau rheng flaen allweddol yr elusen.

Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru

Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West:  “Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn dod yn fwyfwy amlwg ar draws ein cymunedau ac mae’r gwasanaethau a ddarparir gan Age Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i amrediad o bobl

“Mawr obeithiwn y bydd ein cyfraniad yn galluogi’r elusen i dyfu’r gwasanaeth a helpu’r rhai y mae angen cymorth arnynt.”

I gael gwybod mwy am wasanaeth Ffrind mewn Angen Age Cymru, trowch at www.agecymru.org.uk/friend

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru