Bydd rhoddion i elusennau newydd y Bwrdd yn helpu i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru
Bydd Mencap Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn derbyn £30,000 yr un i gefnogi eu gwaith o wella bywydau pobl ag anableddau dysgu.
Bydd y cyllid yn cael ei rannu’n rhoddion o £10,000 dros dair blynedd ar ôl i’r sefydliadau gael eu dewis yn elusennau Bwrdd Tai Wales & West ar gyfer 2026.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant ac yn ymgyrchu er mwyn cyflawni ei genhadaeth o wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anableddau dysgu allu byw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Gweledigaeth Mencap Cymru yw i bobl ag anabledd dysgu allu byw eu bywydau i’r eithaf. Mae’n gwireddu’r weledigaeth hon drwy ddarparu gwasanaethau, cynnig gwybodaeth a chyngor, helpu pobl i ddatblygu sgiliau cyflogaeth, ymgyrchu’n lleol ac yn genedlaethol, a grymuso unigolion, grwpiau a sefydliadau i sicrhau newid gwirioneddol yn eu cymunedau.
Dywedodd Peter Harding, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Wales & West: “Mae anableddau dysgu yn gallu cyflwyno heriau sylweddol i unigolion a theuluoedd yn ein cymunedau, felly rydym yn falch iawn o gefnogi Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein rhodd yn cefnogi eu gwaith i hyrwyddo cydraddoldeb, gwella mynediad at wasanaethau ac, yn y pen draw, helpu i greu cymunedau cynhwysol lle gall pobl ag anableddau dysgu ffynnu.”
Peter Harding, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Wales & West
Bydd y rhodd gyntaf o £10,000 i Mencap Cymru yn cael ei defnyddio i ddatblygu ystafell synhwyraidd newydd ym Mryn Siriol, gwasanaeth seibiant yn Aberystwyth.
Mae Bryn Siriol yn fyngalo tair ystafell wely ar gyfer pobl rhwng 18 a 70 oed ac, ar hyn o bryd, mae’n darparu cymorth rheolaidd i 25 o unigolion.
Mae’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn mynychu’r ganolfan i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, ac mae’r seibiannau a gynigir yno wedi’u cynllunio i deimlo fel gwyliau iddynt.
Maent yn adeiladu ac yn gosod ystafell synhwyraidd ym Mryn Siriol a fydd yn helpu’r bobl y maent yn eu cefnogi i elwa’n emosiynol ac yn feddyliol o’r amgylchedd tawel a chysurus.
Enw’r ystafell synhwyraidd ym Mryn Siriol yw Ystafell Synhwyraidd Jan Kench, a enwyd er cof am Jan Kench, ymgyrchydd hoffus a pharchus dros Mencap.
Dywedodd mab Jan, Dylan Kench: “Mae fy mam wedi bod wrth galon cefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd yng Ngheredigion ers i’m chwaer Bethan gael ei geni. Bydd hyn yn deyrnged bwerus i’w blynyddoedd lawer o ymgyrchu yng Ngheredigion.”
Bydd rhodd eleni i Anabledd Dysgu Cymru yn cael ei defnyddio i gefnogi cynllun Ffrindiau Gig Cymru yng Nghaerdydd.
Mae Ffrindiau Gig Cymru yn helpu oedolion ag anabledd dysgu ac oedolion awtistig i oresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol drwy gyfeillgarwch, diwylliant a hwyl.
Mae’r cynllun yn gweithredu yng Nghaerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a phob un o’r chwe sir yng ngogledd Cymru gan baru pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru â gwirfoddolwyr sydd â diddordebau tebyg, fel y gallant fynd i gigs a digwyddiadau eraill gyda’i gilydd.
Dywedodd Kai Jones, swyddog datblygu gyda Ffrindiau Gig Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn y cyllid hwn gan Grŵp Tai Wales & West. Bydd y cyllid yn ein helpu i greu mwy o baru rhwng ffrindiau gig ac i alluogi mwy o bobl ag anabledd dysgu ac oedolion awtistig i fwynhau’r pethau maen nhw’n eu caru mewn bywyd gyda ffrind newydd.”
Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agosach â Thai Wales & West a rhannu ein gwybodaeth a’n profiad o ran polisi a gwybodaeth Hawdd ei Darllen er mwyn helpu i wella bywydau preswylwyr sydd ag anabledd dysgu.”
