Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) a Calon Hearts yw elusennau staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer 2026-27.
Bydd dau o brif elusennau’r galon y DU yn elwa o weithgareddau codi arian staff Grŵp Tai Wales & West dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) a Calon Hearts wedi’u dewis yn elusennau staff y cwmni ar gyfer 2026-27.
Cafodd y ddwy elusen eu henwebu gan staff a’u dewis yn dilyn pleidlais gan gydweithwyr ledled Grŵp Tai Wales & West.
Bydd yr holl elw o weithgareddau codi arian staff dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
Dywedodd Diane Barnes, Rheolwr Gweinyddol a Chyfleusterau, sy’n cydlynu gweithgareddau codi arian elusennol staff ar gyfer Grŵp Tai Wales & West:
“Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) a Calon Hearts yw ein helusennau staff ar gyfer 2026 a 2027.
“Rydym yn falch bod yr elusennau’n cael eu henwebu a’u dewis gan staff yn dilyn pleidlais. Bydd gwaith anhygoel yr elusennau hyn yn ein cymunedau wedi cyffwrdd â llawer o gydweithwyr, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i godi cymaint o arian â phosibl ar eu cyfer dros y ddwy flynedd nesaf.
“Rydym yn hynod o ffodus bod staff Tai Wales & West yn rhoi mor hael flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan godi £64,000 i’n helusennau staff blaenorol, ac rwy’n siŵr na fydd y tro hwn yn wahanol.”
Disgwylir i’r arian a godir ar gyfer yr elusennau ddod o amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys loteri staff Grŵp Tai Wales & West a digwyddiadau noddedig fel teithiau cerdded, rhedeg, beicio, heriau creadigol a heriau pobi, fel yn y blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd Sarah Thomas, Rheolwr Codi Arian Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn un o’r elusennau a ddewiswyd gan Grŵp Tai Wales & West ar gyfer 2026 a 2027.
“Mae ein tîm ar genhadaeth i roi calon iachach i bawb am gyfnod hirach, ac mae’r gefnogaeth a gynhyrchir drwy bartneriaethau elusennol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n hymdrechion.
“Rydym yn dymuno pob lwc i dîm Grŵp Tai Wales & West ar eu taith codi arian, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth.”
Dywedodd Sharon Owen, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Calon Hearts: “Mae’n anrhydedd mawr i ni gael ein dewis fel un o elusennau staff Grŵp Tai Wales & West am y ddwy flynedd nesaf.
“Y tu ôl i bob sgrinio calon, pob diffibriliwr a phob sesiwn hyfforddi CPR mae’r cyfle i achub bywyd ac i atal teulu arall rhag gorfod wynebu’r galar o golli rhywun annwyl yn llawer rhy fuan.
“Rydym yn gwybod pa mor frwdfrydig yw staff Grŵp Tai Wales & West ynghylch cefnogi achosion da, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar eu bod wedi dewis cefnogi Calon Hearts.
“Bydd eu gweithgareddau codi arian yn ein helpu i barhau â’n cenhadaeth o atal marwolaethau cardiaidd sydyn drwy ddarparu sgrinio calon sy’n achub bywydau, hyfforddiant CPR a gosod diffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru – ac yn y pen draw, byddant yn ein helpu i achub bywydau, ac mae hynny’n anhygoel.”
Yn ystod y cylch codi arian elusennol staff diwethaf yn 2024-25, cododd staff £64,000, a rannwyd yn gyfartal rhwng MND Association, Arthritis Action Cymru, Cerebral Palsy Cymru a Parkinson’s UK Cymru.

