Newyddion

01/04/2026

Meddyliwch cyn clicio

This visual representation illustrates a digital security network with various lock icons overlaid on a world map, highlighting the significance of online safety and data protection.

Defnyddio cyfrineiriau cryf 

Dylech ddefnyddio cyfrineiriau cryf ac unigryw, yn enwedig ar gyfer eich cyfrif e-bost.  Os bydd sgamwyr yn cael mynediad i’ch cyfrif e-bost, gallant gasglu manylion personol ac ailosod cyfrineiriau ar gyfer eich cyfrifon eraill.  Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn argymell defnyddio tri gair ar hap, gan osgoi dewisiadau cyffredin fel “cyfrinair” neu ddyddiadau cofiadwy. 

 

Diogelu eich gwybodaeth bersonol  

Byddwch yn ofalus gyda’r hyn y byddwch yn ei rannu ar-lein, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.  Gall manylion fel eich pen-blwydd, eich tref, eich ysgol neu’ch gweithle helpu sgamwyr i ddyfalu cyfrineiriau neu atebion diogelwch.  Cyn postio, ystyriwch a fyddech chi’n gyffyrddus pe bai’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. 

 

Gwneud eich cyfrifon ar-lein yn ddiogel  

Dylech alluogi dilysu 2-gam ar eich cyfrifon pwysig.  Mae hyn yn ychwanegu haen ddiogelu ychwanegol trwy ofyn am ddau brawf adnabod.  Hyd yn oed os bydd rhywun yn cael gafael ar eich cyfrinair, ni fyddant yn gallu troi at eich cyfrif heb yr ail wiriad hwnnw. 

 

Adnabod tactegau sgamwyr  

Bydd sgamwyr yn aml yn chwarae ar emosiynau, yn meithrin perthnasoedd ffug neu’n creu ymdeimlad o frys.  Mae nifer o wefannau a hysbysebion ffug wedi cael eu cynllunio i edrych fel rhai go iawn hefyd. 

Byddwch yn ofalus os bydd neges yn gofyn i chi am: 

gôd mynediad untro  

eich PIN neu’ch cyfrinair llawn  

taliad cyn y bydd gwobr neu ddosbarthiad yn mynd ar goll  

trosglwyddiad ariannol neu arian crypto uniongyrchol  

symud i ffwrdd o safle talu swyddogol  

arian cyn i chi gyfarfod wyneb yn wyneb
 

Dylech wastad oedi, meddwl, a gwirio. 

 

Beth ddylwn i ei wneud?  

Os byddwch wedi gweld rhywbeth nad yw’n teimlo’n iawn, STOPIWCH! 

torrwch y cysylltiad – peidiwch ag ateb, clicio ar unrhyw ddolenni na gwneud unrhyw daliadau 

edrychwch i weld a yw’n ddilys:  cysylltwch â’r unigolyn neu’r cwmni yn uniongyrchol, gan ddefnyddio rhif ffôn sydd gennych chi yn barod ac rydych yn gwybod ei fod yn gywir 

anfonwch y neges ymlaen am ddim i’ch darparwr gwasanaeth ffôn ar 7726 

adroddwch amdano ar reportfraud.police.uk/reporting-a-fraud 

 

Am ragor o gyngor am yr hyn 
i gadw golwg amdano, trowch at wefan Stop!ThinkFraud (stopthinkfraud.campaign.gov.uk)