Newyddion

01/04/2026

Gofalwch am eich cymdogion

Cadwch bawb yn ddiogel

Mae gofalu am y rhai sy’n byw o’ch cwmpas, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad oes unrhyw un yn manteisio arnynt, yn un o arwyddion cymydog da.

Dyma ychydig gyngor i’ch helpu i gynorthwyo eich cymdogion a chreu man lle y mae pawb yn teimlo’n ddiogel.


A ydych chi wedi gweld eich cymydog yn ddiweddar?

Efallai eich bod yn mynychu digwyddiad rheolaidd, fel bore coffi neu grefft, ac nid ydych chi wedi gweld un o’ch ffrindiau ers sawl wythnos.  Neu efallai nad ydych chi wedi gweld un o’ch cymdogion allan ers sbel.

Os ydych chi’n pryderu am gymydog, piciwch i’w gweld neu siaradwch â’n staff tai.  Os ydych chi’n gofidio o hyd, gallwch ffonio 101 a gofyn am wiriad lles.


Cadwch olwg am wynebau anghyfarwydd

A ydych chi wedi gweld pobl ddieithr neu amheus yn mynd a dod o gartref cymydog?  Efallai bod yr ymwelwyr hynny yn creu sŵn neu niwsans.  Os ydych chi’n gofidio bod rhywun yn camfanteisio ar gymydog agored i niwed, gallai hyn fod yn arwydd o gogio.

Term yw cogio i ddisgrifio pan fo troseddwyr yn cymryd cartref unigolyn agored i niwed drosodd er mwyn cynnal gweithgareddau anghyfreithlon yno fel cyffuriau, camfanteisio rhywiol, cuddio nwyddau wedi’u dwyn neu gamfanteisio ariannol.


Mynegi eich pryderon

Os oes gennych chi bryder difrifol am les cymydog, dyma rai camau y gallwch eu cymryd:

ffonio’r heddlu ar 101 os ydych chi’n amau bod cymydog yn cael eu cam-drin neu os yw eu cartref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau troseddol, fel “cogio”

ffonio 999 mewn argyfwng, os bydd unigolyn mewn perygl

adrodd gwybodaeth mewn ffordd ddienw, trwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111

os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, yn profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, llinell gymorth 24-awr ar 0808 80 10 800 neu anfon neges destun at 07860077333 neu anfon e-bost at info@livefearfreehelpline.wales

ffonio 0800 052 2526 a siarad gyda’ch Tîm Cymorth Tai os ydych chi’n gofidio am un o’ch cymdogion