Newyddion

11/03/2026

Agoriad swyddogol yn amlygu effaith Llys Onnen

Mae datblygiad newydd o 43 o gartrefi fforddiadwy y mae cryn angen amdanynt ar gyfer pobl dros 55 oed wedi’i agor yn swyddogol yn Abergele.

Croesawodd Tai Wales & West westeion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Lys Onnen, datblygiad a adeiladwyd ar safle hen gartref gofal, ar Stryd y Dŵr yn y dref yng Ngogledd Cymru.

Siaradodd preswylwyr am eu hapusrwydd yn eu cartrefi newydd pan gawsant ymweliad gan westeion.

Ymhlith y rhain oedd Mark Lee, a oedd wedi bod yn byw mewn llety dros dro yn dilyn chwalfa ei briodas.

“Nawr bod gen i le fy hun, gall fy nhair merch ddod i’m gweld yn amlach a’m helpu. Rwy’n teimlo’n wych yn fy nghartref newydd,” dywedodd Mark, sydd â chlefyd nerfol dirywiedig a Chlefyd Raynaud ac sy’n byw gyda’i gi cymorth emosiynol o’r enw Nookie.

Agorwyd y cynllun yn swyddogol ar ran Tai Wales & West gan Peter Harding, Cadeirydd y Bwrdd.

Dywedodd: “Rydym yn falch ein bod, drwy Lys Onnen, wedi gallu ychwanegu 43 o gartrefi eraill at ein stoc dai yn ardal Conwy, lle mae gennym tua 300 o gartrefi yn barod.

“Mae’r cartrefi yma yn rhai modern, cynnes, ynni-effeithlon ac wedi’u lleoli’n gyfleus ger canol y dref.

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Castlemead Group i gyflawni’r datblygiad hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy i’r ardal leol.”

Peter Harding, Cadeirydd y Bwrdd, Tai Wales & West

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet dros Dai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Fel cynghorydd newydd ei ethol yn 2022, Llys Onnen oedd fy ymweliad safle cyntaf fel aelod o’r pwyllgor cynllunio.

“Mae’n hynod o werth chweil i weld sut y gall y bartneriaeth hon â Chymdeithas Tai Wales & West gynnig manteision go iawn i’n cymunedau.

“Bydd y cartrefi newydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai fforddiadwy yng Nghonwy ac ar draws Cymru.

“Rydym yn falch ac yn anrhydeddus o fod wedi gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid i ddod a’r datblygiad hwn yn fyw i bobl Abergele.”

Dechreuwyd ar waith adeiladu Llys Onnen ym mis Medi 2023 a’i cwblhawyd ym mis Medi 2025 gan y prif gontractwr, Castlemead Group Ltd, a oedd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae’r datblygiad yn gymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely ac wedi’i adeiladu o ffrâm bren, ac wedi’i gynllunio i gyrraedd safonau uchel o effeithlonrwydd ynni.

Ymhlith y nodweddion mae Pwmp Gwres Aer, Adfer Gwres Awyru Mecanyddol (MVHR) a phaneli Ffotofoltäig (PV).