Newyddion

23/10/2025

Dathlu 60 mlynedd

Drwy gydol y flwyddyn, mae ein preswylwyr wedi dod at ei gilydd i’n helpu i ddathlu ein pen-blwydd yn 60 oed. 

O’r Fflint i Abergwaun, o Gaerdydd i Aberteifi, mae nifer o breswylwyr wedi manteisio ar ein cynllun grant ar gyfer ein pen-blwydd yn 60 oed, gan drefnu digwyddiadau. 

Yng Nghaerau, Trelái, Caerdydd, roedd rhieni o grŵp cymunedol Unity wedi dwyn pobl o bob oed ynghyd mewn parti yn ystod wythnos olaf y gwyliau haf. Bu cerddoriaeth, dawnsio, bwyd a bingo. 

Mewn rhan arall o’r ddinas, bu preswylwyr hŷn mewn cynlluniau ymddeol yn mwynhau dathliadau trwy gydol y gwanwyn a’r haf. Roedd y rhain yn cynnwys Cwrt St Clements, Cwrt Stephenson, Cwrt Newlands, a Chwrt Hope, lle’r oedd un preswylydd wedi archebu cacen ben-blwydd arbennig, sef prif eitem y parti. 

Bu Mared Pugh Evans, telynores swyddogol Ei Uchelder y Brenin, yn chwarae ar gyfer preswylwyr yn Llain Las, Abergwaun. Roedd y preswylwyr mewn cwmni da gan bod Mared wedi perfformio yn Nhŷ Highgrove a’r Senedd. Ar ôl perfformiad Mared, cafwyd bwffe i ddathlu. 

Bu llu o breswylwyr o ardal Meadows ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr, yn mwynhau parti stryd yn ystod yr haf. 

Y stryd y tu allan i’r ganolfan deuluoedd ym Mracla oedd y lleoliad, ac roedd ganddynt gastell neidio, paentio wynebau a gemau hwyliog, gan gynnwys rasys sboncwyr. 

Roedd digon o fwyd hefyd, gyda barbiciw, cŵn poeth, candi-fflos, peiriannau gwneud diodydd rhew a fan hufen iâ. 

Roedd pobl o bob oed, o fabanod i breswylwyr hŷn, wedi ymuno â’r parti i ddathlu ein pen-blwydd yn 60 oed.