Dechreuad newydd i’r preswylwyr sy’n symud mewn i’w cartrefi newydd
Mae Mark, tad anabl, yn dweud bod cael lle diogel i alw’n gartref yn gwneud iddo deimlo’n ‘dda’.
Cyn symud i’w gartref gyda Wales & West yn Llys Onnen, Abergele, roedd Mark wedi bod yn byw mewn llety dros dro yn dilyn chwalfa ei briodas. Treuliodd flwyddyn mewn gwesty cyn cael ei symud i garafán ar barc gwyliau.

“Roedd byw mewn carafán yn hunllef. Roedd hi’n oer iawn ac roeddwn i’n gwario £80 bob 2/3 wythnos ar boteli nwy i redeg y system wresogi, meddai Mark, sydd â chlefyd nerfol dirywiedig a Chlefyd Raynaud.
“Mae fy nghorff cyfan yn gweithredu fel baromedr. Mae gennyf symudedd cyfyngedig mewn amodau llaith ac oer, felly mae angen i mi gadw’n gynnes.
Ym mis Hydref, symudodd Mark, sydd â thair o ferched mewn oed yn byw yn ardal Abergele, i’w fflat ar y llawr gwaelod yn Llys Onnen. Mae’n rhannu’r fflat gyda’i gi cymorth emosiynol, hysgi o’r enw ‘Nookie’.
Mae’r fflat yn hyfryd ac yn gynnes ac mor eang,” meddai. “Mae ganddo gawod fawr yn yr ystafell wlyb.
Mae fy merched wedi fy helpu i symud i mewn ac wedi ei wneud yn gartrefol i mi. Nawr bod gen i le fy hun, gallan nhw ddod i’m gweld yn amlach a helpu fi. Rwy’n teimlo’n wych yn fy nghartref newydd.
“Pan ydych chi’n ddigartref, rydych chi’n dod i arfer â byw yn rhywle, ac wedyn rydych chi’n cael eich symud ymlaen. Mae’n dda gwybod y gallaf wneud hwn yn gartref i mi ac y gwn na fydda i’n cael fy symud ymlaen.”
Mark, preswylydd
Dim ond un o’r preswylwyr sy’n symud i mewn i’r 43 o fflatiau yn Llys Onnen yw Mark.
Wedi’i adeiladu ar safle hen gartref gofal, buom yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu, Castlemead Group Ltd, i adeiladu 43 o gartrefi i fodloni safonau uchel o effeithlonrwydd ynni. Mae’r cartrefi hefyd wedi’u gosod â phaneli solar (PV) i gynhyrchu trydan.
Mae’r nain, Jenny, wedi symud i un o’r fflatiau arall yn Llys Onnen. Mae hi’n dweud bod ei fflat newydd yn Abergele yn golygu dechrau newydd iddi hi a’i theulu.

Cyn symud i’w chartref gyda Wales & West, roedd Jenny, cyn-weithiwr y GIG sydd wedi ymddeol, yn cysgu o un soffa i’r llall rhwng cartrefi ei dwy ferch.
“Roeddwn i mor gyffrous pan gefais i allweddi’r fflat. Mae’n hyfryd!”
“Fe wnaeth fy merched fy helpu i symud i mewn. Maen nhw mor falch drosta i.”
Jenny, preswylydd
“Mae gen i ystafell wely o’r diwedd a lle i’w alw’n gartref lle gall fy merched a’m hwyrion ddod i ymweld â fi.”
Roedd preswylydd arall, Steven, wedi bod yn byw gyda’i rieni am sawl blwyddyn ar ôl ysgariad, cyn cael allweddi ei gartref newydd yn Llys Onnen.
Mae Steven, sydd â phryder ac iselder, yn dweud: “Mae fy fflat yn braf ac yn eang ac mae paneli solar ar y to, felly dylwn i gael rhywfaint o drydan am ddim.”

“Mae’n braf cael lle fy hun, lle gall fy nheulu ddod i’m gweld.”
