Arhoswch yn ddiogel ar noson Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt eleni

Mae’r nosweithiau tywyllach a hirach yn arwydd bod Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt ar y gorwel ac rydym yn annog ein holl breswylwyr i wneud yr hyn y gallant i gadw’n ddiogel fis Hydref a Thachwedd eleni.
Yn unol â chyngor ein tri Gwasanaeth Tân ac Achub cenedlaethol, argymhellir eich bod yn mynychu digwyddiad tân gwyllt wedi’i drefnu. Gall tân gwyllt fod yn beryglus felly hon yw’r ffordd fwyaf diogel o fwynhau Noson Tân Gwyllt.
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn uchafbwynt i nifer o deuluoedd a chymunedau, ond gall arwain at bryderon i bobl oedrannus ac agored i niwed hefyd, gyda chynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddir.
Parchwch unrhyw gymdogion sy’n dangos posteri “dim cast ynteu ceiniog” pan fyddwch allan ar noson Calan Gaeaf, a pharchwch eraill os ydych chi’n cael eich dathliadau Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt eich hun.
Cyngor diogelwch ar gyfer Calan Gaeaf
- Sicrhewch bod unrhyw gwisgoedd Calan Gaeaf y byddwch yn eu prynu yn cynnwys marc CE, gan bod hyn yn dystiolaeth o’r ffaith ei bod yn ddiogel i’w defnyddio
- Byddwch yn ofalus gyda chanhwyllau – gallech fuddsoddi mewn cannwyll LED heb fflam fel dewis amgen diogel
- Os bydd gwisg Calan Gaeaf yn mynd ar dân, cofiwch ‘stopio, cwympo a rholio’ er mwyn bod yn ddiogel
Cyngor diogelwch ar Noson Tân Gwyllt
- Dylech geisio mynychu digwyddiad tân gwyllt wedi’i drefnu bob tro
- Os byddwch yn dewis defnyddio tân gwyllt gartref, dilynwch y Cod Diogelwch Tân Gwyllt
- Arhoswch yn ddigon pell yn ôl os byddwch yn gwylio tân gwyllt
- Ni ddylech fyth fynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl ei gynnau
- Ni ddylech fyth rhoi ffon wreichion i blentyn dan 5 oed
Cyngor gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol
Mae gan holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru dudalennau ar y we ynghylch diogelwch adeg Calan Gaeaf ac ar Noson Tân Gwyllt.
Gogledd Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi
De Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Diogelwch Calan Gaeaf
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Diogelwch Tân Gwyllt
