Newyddion

08/04/2026

Ysbyty Aberteifi

Image of Cardigan Hospital

Mae Tai Wales & West wedi ymrwymo i gontract gyda chwmni adeiladu Jamson Estates o Geredigion i gwblhau’r prosiect.

 

Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd ym mis Medi 2024, sy’n cynnwys cadw ac uwchraddio adeilad gwreiddiol y Priordy.

 

Disgwylir i’r gwaith gymryd tair blynedd i’w gwblhau ac, ar ôl ei orffen, bydd 20 o fflatiau, caffi cymunedol, swyddfeydd ar gyfer Tai Wales & West a llwybrau cerdded cyhoeddus yn cael eu creu ar y safle.

 

Mae gan Jamson Estates brofiad o adfer adeiladau o arwyddocâd hanesyddol, ac meddai Gareth Thomas, Pennaeth Datblygu yng Ngorllewin Cymru, y bydd penodi cwmni teuluol o Dre-saith i arwain y prosiect yn helpu i sicrhau swyddi lleol.

 

Dywedodd Gareth: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Jamson Estates i ddod â safle Ysbyty Aberteifi yn ôl yn fyw ar gyfer pobl leol sydd angen cartrefi a’r gymuned ehangach.”
“Rydym wedi wynebu nifer o heriau annisgwyl a chostau cynyddol sydd wedi arwain at oedi gyda’r prosiect hwn, ond rydym yn gyffrous ei fod bellach yn ôl ar y trywydd iawn.“

 

“Bydd y Priordy gwreiddiol yn parhau’n bwynt canolog i’r datblygiad ac mae’r dyluniad a gymeradwywyd yn caniatáu i breswylwyr lleol ac ymwelwyr fwynhau golygfeydd o Eglwys y Santes Fair.”

 

Ychwanegodd Sam Morris, Cyfarwyddwr yn Jamson Estates Ltd., “Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Tai Wales & West i gyflawni’r gwaith o ailddatblygu safle hen Ysbyty Aberteifi.  ⁠Mae hwn yn brosiect pwysig i’r gymuned leol, gan ddarparu cartrefi a chyfleusterau cymunedol y mae mawr eu hangen, wrth ddiogelu cymeriad hanesyddol y Priordy yn ofalus.

 

Fel cwmni teuluol lleol, rydym yn arbennig o falch o ymrwymiad Tai Wales & West i fuddsoddi yng Ngheredigion a chefnogi busnesau lleol. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau swyddi lleol, cryfhau’r gadwyn gyflenwi ranbarthol, a datblygu sgiliau o fewn yr ardal ar gyfer y dyfodol.

 

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithredu â Tai Wales & West a gweddill y tîm prosiect er mwyn cyflawni datblygiad a fydd o fudd parhaol i’r gymuned.”
Image of contractor and Wales & West staff shaking hands