Newyddion

13/02/2022

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2022

Yn ôl cyflogeion presennol Grŵp Tai Wales & West a gychwynnodd eu gyrfaoedd fel prentisiaid, mae prentisiaethau yn cynnig sgiliau oes, maent yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn cynnig dewis amgen gwych i astudio mewn prifysgol.

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2022, a gynhelir ar 7-13 Chwefror, mae staff wedi datgelu taith eu gyrfa hyd yn hyn, ynghyd â’r cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa a gychwynnodd gyda phrentisiaeth.

“Heb y sgiliau a’r profiad a gefais o’m prentisiaeth, ni fyddwn wedi gallu dod yn Rheolwr Gweithrediadau. Mae gennyf y sgiliau a’r wybodaeth i helpu’r bobl yr wyf yn gweithio gyda nhw.”

Wayne Morris, Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Astudiodd Carlo Vanderplank-Jones am brentisiaeth peirianneg electrodechnegol yn 2001-2005, gan sicrhau cyflogaeth barhaol yn syth ac yna, gweithio i fyny i gyflawni rôl rheolwr uwch ers hynny.

Mae’n gweithio fel Rheolwr Gweithrediadau i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ar hyn o bryd, gan reoli tîm o beirianwyr sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw mewn tai.

“Mae prentisiaeth yn gyfle enfawr ac yn ffordd wych o ymuno â byd gwaith, sy’n cynnig gwobr fawr – byddwch yn cael eich talu i ddysgu crefft a fydd gyda chi trwy gydol eich bywyd,” dywedodd Carlo.

“Ystyriais ddychwelyd i’r ysgol i astudio lefel A ar ôl cwblhau TGAU, ond dewisais ddilyn prentisiaeth yn y diwedd.  Roedd hyblygrwydd prentisiaeth yn golygu y gallwn astudio am fy lefel A hefyd trwy fynychu coleg gyda’r hwyr ar yr un pryd.

“Y peth mwyaf gwerthfawr a ddysgais oedd gwerthfawrogiad o waith caled – po fwyaf o ymdrech y byddwch yn ei wneud, y mwyaf y bydd eich gwobr,” ychwanegodd.

“Mae’r sgiliau a ddysgais wedi cynnig gwybodaeth dechnegol wych i mi, nid yn unig yn y maes trydanol, ond ym maes adeiladu yn gyffredinol hefyd.  Rydw i’n defnyddio’r wybodaeth dechnegol honno yn ddyddiol o hyd er mwyn helpu i ddatrys problemau a darparu cyngor ac arweiniad yn fy rôl cyfredol fel rheolwr.”

Sicrhaodd Charlotte Street, Cynorthwyydd Cydymffurfiaeth, le ar gwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn prifysgol, ond penderfynodd ddilyn prentisiaeth yn lle hynny.

“Penderfynais nad y brifysgol oedd y lle gorau i mi, felly siaradais gyda’r coleg lleol, gan gofrestru am brentisiaeth ym maes Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu Busnes.”

Llwyddodd Charlotte i sicrhau cyflogaeth yn syth, gan weithio ym maes rheoli eiddo yn y pen draw, ac ymunodd â Thai Wales & West yn 2016.

Fel cynorthwyydd cydymffurfiaeth, mae hi’n gyfrifol am oruchwylio ymholiadau sy’n ymwneud gyda phopeth o lifftiau yn torri i namau ar larymau tân, cysylltu gyda chontractwyr er mwyn sicrhau bod gwaith trwsio yn cael ei gwblhau a sicrhau bod gwybodaeth archwilio yn cael ei diweddaru.

“Roedd astudio am brentisiaeth yn golygu fy mod yn cael profiad o fyd gwaith yn gynharach nag y bydden i wedi ei gael pe bawn i wedi mynd i’r brifysgol, ac roeddwn yn gallu ennill arian wrth ddysgu sgiliau newydd.

“Tyfodd fy hyder gryn dipyn yn ystod fy mhrentisiaeth ac mae’r sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu a ddysgais wedi tyfu a datblygu o’r fan honno.”

“Mae prentisiaeth yn gyfle enfawr ac yn ffordd wych o ymuno â byd gwaith, sy’n cynnig gwobr fawr – byddwch yn cael eich talu i ddysgu crefft a fydd gyda chi trwy gydol eich bywyd.”

Carlo Vanderplank-Jones, Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Mae Wayne Morris, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, yn Saer Maen/Briciwr yn ôl galwedigaeth, ar ôl astudio prentisiaeth pedair blynedd yn y 1970au yng Ngholeg Technegol Merthyr Tudful.

Cychwynnodd ei yrfa fel contractwr hunangyflogedig, gan weithio i gwmnïau adeiladu ar draws Cymru, Bryste a Llundain.

Mae Wayne wedi bod gyda Grŵp Tai Wales & West ers 13 mlynedd, gan gychwyn fel Swyddog Rheoli Asedau i Dai Wales & West cyn symud i Cambria wyth mlynedd yn ôl.

Gan fwynhau gyrfa eang ac amrywiol, mae Wayne wedi cael ei gyflogi fel gweithiwr ieuenctid hefyd.

“Pan oeddwn yn ddigon hen i ddechrau gweithio, yr unig gyfleoedd a oedd ar gael i mi oedd gweithio dan ddaear neu gael prentisiaeth,” dywedodd.  “Cyngor fy nhad oedd y dylwn i chwilio am brentisiaeth, ac arferai ddweud “os oes gennyt ti grefft, ni fyddi di fyth heb waith.

“Roedd fy mhrentisiaeth wedi dysgu cryn dipyn o sgiliau cyfathrebu ac ymarferol i mi.  Y peth mwyaf gwerthfawr a gefais o’m prentisiaeth oedd y gallu i fynd allan i wahanol amgylcheddau gwaith ac ennill bywoliaeth i gynnal fy nheulu.

“Heb y sgiliau a’r profiad a gefais o’m prentisiaeth, ni fyddwn wedi gallu dod yn Rheolwr Gweithrediadau.  Mae gennyf y sgiliau a’r wybodaeth i helpu’r bobl yr wyf yn gweithio gyda nhw.

“Er mwyn cyflawni fy rôl fel gweithiwr cymorth, un o’r meini prawf oedd bod angen i chi gael cefndir masnachol, i fod yn AMO, roedd angen i mi gael sgiliau adeiladu ac i fod yn rheolwr Gweithrediadau, roedd gofyn i mi gael gwybodaeth am faes adeiladu.  Yr unig reswm yr oeddwn yn gallu gweithio yn y gwahanol rolau hyn yw oherwydd y brentisiaeth a ddilynais.”

Y llynedd, cyflogodd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria 16 o brentisiaid ar draws Cymru ac mae ein prentisiaid yn rhan bwysig a gwerthfawr o’r gweithlu o fewn Grŵp Tai Wales & West.

Dywedodd Carly Hodson, Rheolwr Datblygu Gyrfa i Dai Wales & West:  “Mae’n wych clywed am lwybrau gyrfa staff cyfredol, gan ddangos pa mor werthfawr y gall prentisiaeth fod a’r dewisiadau a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig.

“Mae eu profiad a’u gwybodaeth nhw yn cael ei phasio i’n prentisiaid presennol trwy ein rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod ein holl hyfforddeion – gan gynnwys ein prentisiaid – yn datblygu’r wybodaeth, yr agwedd a’r sgiliau ymarferol cywir y mae eu hangen er mwyn llwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Trowch at ein gwefan am brentisiaethau i gael gwybod mwy neu anfonwch e-bost at careers@wwha.co.uk

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru