Taith trwy’r tymhorau

Mae gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria dri thîm o weithwyr cynnal a chadw tir, sy’n gweithio gyda gofalwyr safle, i ofalu am ein safleoedd.
Y tu hwnt i’r tasgau nodweddiadol, efallai y bydd y timau yn helpu gyda phrosiectau amgylcheddol a ariannir gan grantiau hefyd, i blannu coed a bylbiau er mwyn dwyn lliw i’n cymunedau.
Dyma sut mae blwyddyn nodweddiadol yn edrych
Gwanwyn/haf – Mawrth i Fedi
Gwanwyn yw’r adeg pan fydd popeth yn adfywio a bydd ein timau cynnal a chadw tir yn estyn am eu peiriannau torri porfa, strimwyr a chwythwyr. Byddwn yn galw’r cyfnod hwn yn “dymor torri”. Yn ystod y rhan gyntaf, mae’n dymor nythu adar hefyd, pan fydd hi’n anghyfreithlon tocio coed a gwrychoedd nes bydd y cywion wedi magu plu a gadael y nyth. Gallai’r gwaith nodweddiadol yn ystod y cyfnod hwn gynnwys:
- torri porfa am y tro cyntaf ar ôl y gaeaf
- gwaith torri porfa a strimio arferol
- rheoli chwyn
- glanhau safleoedd a chasglu sbwriel
Hydref/gaeaf – Hydref i Chwefror
Y tu hwnt i’r tymor tyfu, gall y timau ganolbwyntio ar y math o waith na ellir ei wneud yn ystod yr haf, er enghraifft, tocio coed a gwrychoedd.
Gallai’r gwaith nodweddiadol gynnwys:
- glanhau safleoedd a chasglu sbwriel
- trimio gwrychoedd a llwyni a thocio coed
- glanhau mwsogl oddi ar lwybrau
- archwilio coed am beryglon posibl yn ystod y gaeaf
- clirio dail, llystyfiant sydd wedi gwywo a sbwriel arall
