Newyddion

25/09/2018

Tai Wales & West yn datblygu partneriaethau £500 miliwn â chwmnïau adeiladu Cymreig i ddarparu 6,000 o gartrefi newydd i Gymru

Bydd cwmnïau adeiladu Cymreig yn rhannu oddeutu £500 miliwn o waith sydd wedi’i sicrhau yn ystod y 10 mlynedd nesaf dan brosiect arloesol gan Dai Wales & West i adeiladu 6,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru.

Am y tro cyntaf yn ein hanes, rydyn ni wedi ymgymryd â phartneriaethau o ddegawd â chontractwyr yn rhan o’n hymrwymiad i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru.

Bydd y cytundebau newydd, a ddyfarnwyd i ystod o fusnesau bach, canolig a mawr ledled Cymru, yn diogelu cannoedd o swyddi ac yn cyflenwi cartrefi y mae angen mawr amdanynt bob blwyddyn hyd at 2028.
Disgwylir hefyd creu 500 arall o brentisiaethau newydd drwy gydol bywyd y cytundebau partner.

“Mae yna brinder cronig o dai fforddiadwy yng Nghymru a’r ffordd orau i ni adeiladu mwy o gartrefi’n fwy effeithlon nag erioed o’r blaen yw drwy’r cytundebau partneriaeth hyn.”
Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West

Dewiswyd wyth o gwmnïau o restr fer o 40 ac maent wedi’u dyfarnu â chontractau i weithio ar ddatblygiadau mewn tri rhanbarth yng Nghymru.

Yn Ne Cymru, y rhain fydd P&P Builders Ltd o Flaenafon, Torfaen; Jehu Project Services Ltd  Pen-y-bont ar Ogwr a Hale Construction Ltd o Gastell-nedd.

Y contractwyr a ddewiswyd yng Nghanolbarth Cymru yw T Richard Jones Ltd o’r Betws, Sir Gaerfyrddin, a WB Griffiths & Son Ltd o Hwlffordd, Sir Benfro.

Yng Ngogledd Cymru, y contractwyr partner fydd Brenig Construction Ltd o Fochdre, Conwy, Anwyl Construction Ltd o Ewloe a Seddon Construction Ltd, sydd â safle yn Shotton.

Fe barhawn ni i weithio ag ystod o gontractwyr bach a chanolig ym mhob rhanbarth yn ogystal â’r rheiny a ddewiswyd dan y cytundebau newydd.

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West:
“Mae yna brinder cronig o dai fforddiadwy yng Nghymru a’r ffordd orau i ni adeiladu mwy o gartrefi’n fwy effeithlon nag erioed o’r blaen yw drwy’r cytundebau partneriaeth hyn.

“Rydyn ni’n hynod falch o’r ffaith ein bod wedi gallu sicrhau cymaint o waith i gymaint o gwmnïau yn ystod y degawd nesaf a hynny’n helpu i ddiogelu swyddi ac i roi hwb i economi Cymru.

“Bydd y prosiectau a gwblheir gan ein partneriaid newydd a chontractwyr eraill yn ystod y degawd nesaf yn ein helpu i gyfrannu’n sylweddol i dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru.”

“Sicrhau’r cytundeb yw’r cyflawniad mwyaf yn hanes byr Brenig Construction ac mae’r effaith fydd hyn yn ei gael ar ddyfodol y cwmni’n gyffrous iawn.”
Howard Vaughan, Cyfarwyddwr Rheoli Grŵp Brenig Construction

Cafwyd canmoliaeth gan Steve Flay, Cyfarwyddwr P + P Builders ym Mlaenafon i’r penderfyniad ‘amheuthun a chyffrous’ gan Dai Wales & West i ddyfarnu cytundebau 10 mlynedd.

Dywedodd: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ein cartrefi cyntaf gyda Thai Wales & West, byddai’n diogelu swyddi i 20 i 30 o’n staff a gyflogir yn uniongyrchol yn ogystal â llawer o isgontractwyr lleol, a darparu hyfforddiant a phrentisiaethau i bobl leol.”

Ychwanegodd David Harry, rheolwr gyfarwyddwr Hale Construction:
“Rydyn ni’n hynod falch o ddechrau ein partneriaeth newydd â Thai Wales & West. Rydyn ni ar hyn o bryd yn adeiladu 82 o fflatiau i Dai Wales & West yn Chiltern Close, Llanishen ac mae’r datblygiad hwn wedi bod yn fenter sy’n fanteisiol i’n cwmnïau ni’n dau.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio â nhw ar lawer mwy o brosiectau yn y dyfodol.”

Dywedodd Tom Anwyl, Cyfarwyddwr Adeiladu, Anwyl Construction:
“Ein hethos ni yw creu cysylltiadau partner tymor hir â’n cleientiaid ac rydyn ni’n hynod falch o barhau ein partneriaeth â Thai Wales & West drwy ein hapwyntiad ar y cytundeb datblygu 10-mlynedd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio â Thai Wales & West i gyflenwi manteision arwyddocaol drwy ein dysgu a’n sgiliau a rennir a’r safoni i gyflenwi rhaglen ddatblygu uchelgeisiol.”

Meddai Howard Vaughan, Cyfarwyddwr Rheoli Grŵp Brenig Construction:
“Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi ein dewis yn un o’r cwmnïau i weithio â Thai Wales & West ar gytundebau partneriaeth adeiladu 10 mlynedd.

“Sicrhau’r cytundeb yw’r cyflawniad mwyaf yn hanes byr Brenig Construction ac mae’r effaith fydd hyn yn ei gael ar ddyfodol y cwmni’n gyffrous iawn. Tai Wales & West yw un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos â nhw yn y blynyddoedd i ddod.”

“Mae’n gyffrous cael y cyfle i fod yn rhan o’r ffordd newydd arloesol yma o weithio”
Owain Jones, Cyfarwyddwr T Richard Jones Ltd o’r Betws

Dywedodd Marc Jehu, Rheolwr Gyfarwyddwr y Jehu Group:
“Mae’n gyffrous bod yn rhan o bartneriaeth Wales and West. Cred y strategaeth Housing Horizons a lansiwyd gan CHCymru yn 2017 y dylem fyw yn y Gymru lle mae cartrefi da’n sylfaenol i bawb ac rydyn ni’n falch o allu cyfrannu tuag at hynny.”

Dywedodd Owain Jones, Cyfarwyddwr T Richard Jones Ltd o’r Betws, Sir Gaerfyrddin:
“Mae’n gyffrous cael y cyfle i fod yn rhan o’r ffordd newydd arloesol yma o weithio. Mae’r potensial o sicrwydd gwaith am 10 mlynedd yn unigryw. Bydd yr effaith ar ein prentisiaethau a’n rhaglen o hyfforddi graddedigion yn enfawr.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru