Newyddion

24/10/2025

Staff Cyllid yn codi punnoedd i elusen drwy her Pen y Fan

Finance team group photo

Codi punnoedd yn lle cyfrif punnoedd…

Staff Cyllid yn codi punnoedd i elusen drwy her Pen y Fan

Roedd tua 20 aelod o’n tîm Cyllid wedi cyfnewid taenlenni am esgidiau cerdded fel rhan o’n hymgyrch codi arian 60 ar gyfer 60, i ddathlu ein pen-blwydd yn 60 oed.

Eu cenhadaeth oedd cerdded i fyny ac i lawr copa uchaf De Cymru, Pen y Fan, 60 gwaith. ⁠Ar brynhawn Llun heulog ym mis Medi, aethon nhw i’r mynyddoedd a mwy na ddyblu eu targed.

Finance group photo at peakCwblhawyd 126 adran gan y tîm at ei gilydd, gan ddringo dros 1000,000m, sy’n cyfateb â dringo mynydd Everest 12 gwaith.

Ac yn well fyth, fe godon nhw dros £2,500 ar gyfer ein helusennau staff a ddewiswyd: Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, Cerebral Palsy Cymru, Parkinson’s UK yng Nghymru, a Cymru Versus Arthritis.

Mae’r dudalen roddion dal ar agor https://www.justgiving.com/page/lisa-davies-1756381158787?utm_medium=FR&utm_source=CL

Freya Whitton