Newyddion

07/11/2025

“Roeddem wastad yno i’n gilydd”

Photo image of Joe Millward
Mae Joe, 71 oed, a Pat, 78 oed, wedi bod yn gymdogion yn un o’n cymunedau yn Wrecsam ers dros 20 mlynedd.  Roeddent wedi cyfarfod y tro cyntaf pan symudodd Joe i Gwrt Hackettt, lle’r oedd Pat yn byw gyda’i gŵr, Ron.  Mae Pat yn byw yn yr un fflat o hyd, ac mae Joe bellach yn byw mewn byngalo yng Nghwrt Thomas, gerllaw. 

“Cefais fy magu yn yr ardal ac rydw i’n cofio’r tai yn Barracksfield, sef enw’r ardal hon ar y pryd, yn cael eu hadeiladu,” dywedodd Joe. 

“Arferai’r man lle y mae’r ystad nawr fod yn gae gyda dau gynhwysydd y fyddin arnynt. 

“Mae gennyf atgofion cynnar o’r cymdogion da a oedd gennyf yng Nghwrt Hackett.  Roeddem wastad yno i’n gilydd, os oedd angen peint o laeth ar un ohonom neu os oedd angen help i glirio eira yn y gaeaf.  Mae Pat a minnau yn helpu ein gilydd o hyd.” 

Symudodd Pat i Gwrt Hackett pan briododd ei diweddar ŵr, Ron, a oedd wedi bod yn breswylydd yno ers y trosglwyddwyd y setiau cyntaf o allweddi.  Pan fu farw 16 o flynyddoedd yn ôl, yn 90 oed, dewisodd Pat aros yn Wrecsam. 

“Mae’r fflat yng Nghwrt Hackett wedi bod yn gartref i mi ers dros 30 mlynedd ac rydw i wedi gwneud ffrindiau da yma, felly nid oeddwn yn dymuno symud,” dywedodd. 

“Nid oeddwn i fyth wedi bod i Wrecsam cyn i mi gyfarfod Ron.  Roedd yn newid mawr – symudais o dŷ eithaf mawr gyda gardd i fflat un ystafell wely – ond rydym wedi creu bywyd da gyda’n gilydd.  Mae’n lle tawel i fyw, mae’r gerddi yn cael eu cadw yn dda iawn.  Rydw i wedi setlo yma yn Wrecsam.” 

Freya Whitton