Newyddion

18/11/2025

Peidiwch â chychwyn eich blwyddyn newydd yn gofidio am arian

 

Gyda chostau byw o ddydd i ddydd yn codi, mae rhedeg cartref a theulu yn ddrud trwy gydol y flwyddyn. 

 

Mae ein staff tai yma i gynorthwyo preswylwyr i reoli eu sefyllfa ariannol, pan fydd angen ychydig help ychwanegol arnynt. 

 

Gall y Nadolig fod yn gyfnod lle y mae pwysau ychwanegol ar gyllidebau sydd eisoes yn dynn. 

 

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi fod yn ei chael hi’n anodd talu eich biliau sy’n cael blaenoriaeth, fel bwyd, rhent, gwres a threth gyngor, cysylltwch. 

 

Gall ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth a Thai fanteisio ar gyngor a chymorth ariannol a allai eich helpu chi.  Gallant hefyd weithio gyda chi ar eich cynlluniau talu rhent er mwyn ystyried eich sefyllfa ariannol. 

 

I weld manylion eich Swyddog Tai, trowch at y dudalen cysylltu â ni ar ein gwefan, wwha.co.uk neu siaradwch ag aelod o staff a byddant yn gallu cysylltu â’r bobl gywir i’ch helpu chi. 

 

Trwy siarad gyda ni, gallwn gynnig cymorth i chi fel na fyddwch yn cychwyn 2026 gyda phryderon ariannol. 

 

Freya Whitton