Meddyliwch cyn clicio
Defnyddio cyfrineiriau cryf
Dylech ddefnyddio cyfrineiriau cryf ac unigryw, yn enwedig ar gyfer eich cyfrif e-bost. Os bydd sgamwyr yn cael mynediad i’ch cyfrif e-bost, gallant gasglu manylion personol ac ailosod cyfrineiriau ar gyfer eich cyfrifon eraill. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn argymell defnyddio tri gair ar hap, gan osgoi dewisiadau cyffredin fel “cyfrinair” neu ddyddiadau cofiadwy.
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Byddwch yn ofalus gyda’r hyn y byddwch yn ei rannu ar-lein, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Gall manylion fel eich pen-blwydd, eich tref, eich ysgol neu’ch gweithle helpu sgamwyr i ddyfalu cyfrineiriau neu atebion diogelwch. Cyn postio, ystyriwch a fyddech chi’n gyffyrddus pe bai’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.
Gwneud eich cyfrifon ar-lein yn ddiogel
Dylech alluogi dilysu 2-gam ar eich cyfrifon pwysig. Mae hyn yn ychwanegu haen ddiogelu ychwanegol trwy ofyn am ddau brawf adnabod. Hyd yn oed os bydd rhywun yn cael gafael ar eich cyfrinair, ni fyddant yn gallu troi at eich cyfrif heb yr ail wiriad hwnnw.
Adnabod tactegau sgamwyr
Bydd sgamwyr yn aml yn chwarae ar emosiynau, yn meithrin perthnasoedd ffug neu’n creu ymdeimlad o frys. Mae nifer o wefannau a hysbysebion ffug wedi cael eu cynllunio i edrych fel rhai go iawn hefyd.
Byddwch yn ofalus os bydd neges yn gofyn i chi am:
gôd mynediad untro
eich PIN neu’ch cyfrinair llawn
taliad cyn y bydd gwobr neu ddosbarthiad yn mynd ar goll
trosglwyddiad ariannol neu arian crypto uniongyrchol
symud i ffwrdd o safle talu swyddogol
arian cyn i chi gyfarfod wyneb yn wyneb
Dylech wastad oedi, meddwl, a gwirio.
Beth ddylwn i ei wneud?
Os byddwch wedi gweld rhywbeth nad yw’n teimlo’n iawn, STOPIWCH!
torrwch y cysylltiad – peidiwch ag ateb, clicio ar unrhyw ddolenni na gwneud unrhyw daliadau
edrychwch i weld a yw’n ddilys: cysylltwch â’r unigolyn neu’r cwmni yn uniongyrchol, gan ddefnyddio rhif ffôn sydd gennych chi yn barod ac rydych yn gwybod ei fod yn gywir
anfonwch y neges ymlaen am ddim i’ch darparwr gwasanaeth ffôn ar 7726
adroddwch amdano ar reportfraud.police.uk/reporting-a-fraud
Am ragor o gyngor am yr hyn
i gadw golwg amdano, trowch at wefan Stop!ThinkFraud (stopthinkfraud.campaign.gov.uk)

