Newyddion

19/12/2019

Mae Grŵp Tai Wales & West wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr eithriadol

Mae Grŵp Tai Wales & West wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr eithriadol mewn arolwg blynyddol o’r cwmnïau gorau i weithio iddynt yn y DU.

Dyfarnwyd achrediad 3* Cwmnïau Gorau i’r Grŵp, sy’n cynnwys Tai Wales & West, Mentrau Castell a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Hon yw’r wobr uchaf y mae modd ei sicrhau yn rhaglen gydnabod Cwmnïau Gorau, sy’n mesur gweithgarwch ymgysylltu cyflogeion, a bydd y tri sefydliad yn gallu arddangos logo achrediad 3* Cwmnïau Gorau nawr.

2020 fydd y flwyddyn gyntaf y bydd tri chwmni y Grŵp – Cymdeithas Tai Wales & West, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell (Gofal a Chymorth, Glanhau ac Arlwyo) – yn dal yr achrediad, gan gydnabod eu statws fel cyflogwr rhagorol.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West:  “Rydw i’n hynod o falch o’r cyflawniad hwn, sy’n tystio i ba mor bwysig yw pobl yn ein holl gwmnïau  fewn y Grŵp.

“Mae’r achrediad Cwmnïau Gorau 3* hwn yn arbennig o ddymunol o ystyried y ffaith y caiff Grŵp Tai Wales & West ei gynnwys am y tro cyntaf.

“Mae’n ymdrech wirioneddol gan y tîm, ac mae wedi cael ei sicrhau o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad pob cyflogai – ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn a wnawn na bod yr hyn ydym heb gyfraniad pawb i wneud gwahaniaeth.”

Roedd Tai Wales & West wedi dal yr achrediad 3* uchaf yn flaenorol, yn 2018 yn fwyaf diweddar, ond dyma’r tro cyntaf i’r sefydliad gymryd rhan yn yr arolwg fel Grŵp.
Holwyd dros 640 o gyflogeion fel rhan o’r broses.

“Mae’n ymdrech wirioneddol gan y tîm, ac mae wedi cael ei sicrhau o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad pob cyflogai.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Dywedodd Jonathan Austin, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Cwmnïau Gorau:  “Hoffwn longyfarch Grŵp Tai Wales & West ar eich cyflawniad.

“Mae Cwmnïau Gorau wedi bod yn cynhyrchu’r safon achredu er 2006 er mwyn cydnabod rhagoriaeth yn y gweithle.  Mae sefydliadau fel Grŵp Tai Wales & West wedi parhau i ganolbwyntio ar eu cyflogeion ac maent wedi cael gweithlu sy’n ymgysylltu yn wobr am hyn, sy’n dweud wrthym bod hwn yn gwmni gorau i weithio iddo.”

Mae Grŵp Tai Wales & West yn dal dyfarniad uchaf Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd, sef y safon Platinwm, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth bellach o’i ymrwymiad i’w gyflogeion.

Am ragor o wybodaeth am Gwmnïau Gorau, trowch at www.b.co.uk

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru