Mae cynllun gofal ychwanegol newydd ym Mhenarth yn dechrau cymryd siâp
Mae cynllun gofal ychwanegol newydd Penarth gwerth £20 miliwn yn dechrau cymryd siâp, gan ddod â 70 o gartrefi i bobl dros 55 oed ym Mro Morgannwg gam yn agosach.

Croesawodd Tai Wales & West westeion o Fro Morgannwg a Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro i weld sut mae’r gwaith adeiladu yn datblygu ar gyfer Hafan y Dderwen.
Dechreuodd y gwaith i adeiladu’r cyfleuster gofal ychwanegol ym mis Medi 2024 ym Myrtle Close, Penarth, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, o dan arweiniad y prif gontractwr, Hale Group.
Hafan Y Dderwen fydd cynllun gofal ychwanegol cyntaf Tai Wales & West yn Ne Cymru a bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Cafodd y prosiect gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gwireddwyd yn dilyn gwaith partneriaeth agos rhwng Tai Wales & West a Chyngor Bro Morgannwg.
Dywedodd Jon Harvey, Pennaeth Datblygu yn Ne Cymru ar gyfer Tai Wales & West: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn, nid yn unig i ni ond hefyd i ardal Bro Morgannwg. Rydym yn falch o weithio gyda’r awdurdod lleol i gyflawni’r cynllun, ac roedd yn wych gallu dangos i bawb y gwaith sydd wedi’i gwblhau hyd yma.”
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morganwg dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid: “Mae’n wych gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar y datblygiad hwn wrth i’r adeilad ddechrau cymryd siâp.
“Bydd yn darparu llety fforddiadwy sydd ei angen yn fawr ar gyfer pobl hŷn ym Mhenarth ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio effeithiol rhwng y Cyngor, landlordiaid cymdeithasol lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.
“Mae’r cynllun wedi’i gynllunio nid yn unig i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol gynhwysfawr i’w denantiaid ond hefyd i fod yn adnodd pwysig i’r gymuned ehangach.”
“Mae datblygiadau fel hyn yn gam sylweddol tuag at ddiwallu anghenion y grŵp hwn.”
Bydd cyfleusterau gofal ychwanegol Penarth yn cynnwys bwyty ar y safle, lolfeydd, storfa sgwteri symudedd a gardd sy’n gyfeillgar i ddementia.
Mae wedi’i adeiladu o bren, gan leihau’r ôl troed carbon, ac wedi’i ddylunio gyda’r egwyddor o effeithlonrwydd ynni mewn golwg, gyda’r nod o leihau biliau gwresogi a dŵr poeth preswylwyr.
Bydd Hafan Y Dderwen ar gyfer pobl dros 55 oed, a rhoddir blaenoriaeth ar gyfer cartrefi i bobl sy’n byw ym Mro Morganwg neu sydd â chysylltiad â’r ardal.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 052 2526.

