Ein 60fed cartref eleni
Yn ystod y flwyddyn pan ddathlom ein pen-blwydd yn 60 oed, trosglwyddwyd yr allweddi i’r 60fed cartref i ni ei adeiladu yn 2025 ym Mharc y Chwarel yn Abergwaun.
Mae’r byngalo yn un o 50 o dai, fflatiau a byngalos ym Maesgwyn, yn Sir Benfro. Adeiladwyd y rhain ar safle hen farics y Fyddin, ac fe’u cwblhawyd gan ein partneriaid adeiladu, Jones Brothers (Henllan) Ltd, a dechreuodd y preswylwyr symud i mewn ym mis Tachwedd.
Yn Llys Onnen yn Abergele, rydym hefyd wedi dechrau croesawu’r preswylwyr newydd i’w cartrefi newydd. Adeiladwyd y datblygiad ar safle hen gartref gofal, a ddymchwelwyd er mwyn creu lle ar gyfer 43 o fflatiau. Adeiladwyd y cartrefi newydd gan ein partner adeiladu, Grŵp Castlemead.
Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu dros 600 o gartrefi ar draws Cymru. Wrth iddynt gael eu cwblhau, byddant yn darparu tai hanfodol ar gyfer cannoedd o breswylwyr y mae angen iddynt gael eu cartref eu hunain.
Gorllewin Cymru
Hen safle Ship and Anchor yn Abergwaun
Hen safle Lidl yng Nghaerfyrddin
Gogledd Cymru
Bay View Road ym Mae Colwyn
Parc Technoleg Wynnstay yn Rhiwabon, Wrecsam
Cwrt Pentwmpath yn Llai, Wrecsam
Eaton Drive yn Wrecsam
De Cymru
Dau gynllun gofal ychwanegol newydd – Hafan Y Dderwen ym Mhenarth, Bro Morgannwg ac un arall yn Free Street, Aberhonddu, Powys
St Brides Road, Y Wig
Heol Y Pentir, Y Rhws

The former Ship and Anchor in Fishguard

The former Lidl site in Carmarthen

Llys Onnen

Cwrt Pentwmpath in Llay, Wrexham

Extra care at Free Street, Brecon, Powys

St Brides’s Road, Wick

