Newyddion

24/02/2026

Edrych yn ôl ar ein blwyddyn pen-blwydd yn 60 oed wrth i ni edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf!⁠ ⁠

Cafwyd partïonplannwyd coed a chafodd llwyth o arian ei godi ar gyfer elusennau wrth i’n preswylwyr a’n staff ymuno yn y dathliadau. 

Partïon Preswylwyr

Drwy gydol y flwyddyn, trefnwyd cyfanswm o 33 o bartïon gan breswylwyr yn eu cymunedau. O Fflint i Abergwaun, Caerdydd i Aberteifi; mewn cynlluniau ymddeol, cynlluniau gofal ychwanegol a chanolfannau cymunedol, manteisiodd llawer o breswylwyr ar ein cynllun grant pen-blwydd yn 60 oed i drefnu eu digwyddiadau cymdeithasol eu hunain. ⁠  

 

Plannu Coed

Lansiwyd ein cynllun plannu coed ar gyfer blwyddyn dathlu ein pen-blwydd yn 60 oed i gefnogi bioamrywiaeth a gadael etifeddiaeth barhaol ymhlith ein cymunedau. ⁠   

Yn gyfan gwbl, plannwyd 60 o goed, yn bennaf criafol, cyll a rhywogaethau llai eraill gyda chymorth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. 

Ymhlith y cynlluniau a gafodd fudd o’r fenter mae Plas yr Ywen, cynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, lle rydym yn plannu 25 o goed yn y goetir hynafol, yn ogystal ag ystod o ystadau yn Aberteifi, Aberystwyth, Sanclêr, Penarth, Caerdydd a’r Barri. 

Codi Arian 

Ar hyd y flwyddyn, cymerodd ein staff ran yn ein Her 60 am 60 ac fe godwyd £15,000 ar gyfer ein helusennau staff. 

Ymhlith uchafbwyntiau’r flwyddyn roedd: 

  • tîm o staff cymorth a gofal ychwanegol a gerddodd ac a redodd 600,000 o gamau mewn 60 diwrnod 

Cafodd yr holl arian ei godi ar gyfer ein helusennau staff: Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, Cerebral Palsy Cymru, Parkinson’s UK yng Nghymru, a Cymru Versus Arthritis. 

Mae wedi bod yn garreg filltir i’w chofio!