Edrych yn ôl ar ein blwyddyn pen-blwydd yn 60 oed wrth i ni edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf!
Cafwyd partïon, plannwyd coed a chafodd llwyth o arian ei godi ar gyfer elusennau wrth i’n preswylwyr a’n staff ymuno yn y dathliadau.
Partïon Preswylwyr
Drwy gydol y flwyddyn, trefnwyd cyfanswm o 33 o bartïon gan breswylwyr yn eu cymunedau. O Fflint i Abergwaun, Caerdydd i Aberteifi; mewn cynlluniau ymddeol, cynlluniau gofal ychwanegol a chanolfannau cymunedol, manteisiodd llawer o breswylwyr ar ein cynllun grant pen-blwydd yn 60 oed i drefnu eu digwyddiadau cymdeithasol eu hunain.

Plannu Coed
Lansiwyd ein cynllun plannu coed ar gyfer blwyddyn dathlu ein pen-blwydd yn 60 oed i gefnogi bioamrywiaeth a gadael etifeddiaeth barhaol ymhlith ein cymunedau.
Yn gyfan gwbl, plannwyd 60 o goed, yn bennaf criafol, cyll a rhywogaethau llai eraill gyda chymorth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Ymhlith y cynlluniau a gafodd fudd o’r fenter mae Plas yr Ywen, cynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, lle rydym yn plannu 25 o goed yn y goetir hynafol, yn ogystal ag ystod o ystadau yn Aberteifi, Aberystwyth, Sanclêr, Penarth, Caerdydd a’r Barri.
Codi Arian
Ar hyd y flwyddyn, cymerodd ein staff ran yn ein Her 60 am 60 ac fe godwyd £15,000 ar gyfer ein helusennau staff.
Ymhlith uchafbwyntiau’r flwyddyn roedd:
- tîm o 20 o’n hadran gyllid a gerddodd i fyny ac i lawr copa uchaf De Cymru, Pen y Fan, 60 o weithiau mewn un diwrnod… ac fe ddyblon nhw’r targed!
- ein tîm datblygu a gwblhaodd Her y Tri Chopa Cymru mewn 24 awr
- tîm o redwyr a gwblhaodd Her Fusnes Hanner Marathon Caerdydd
- tîm o staff cymorth a gofal ychwanegol a gerddodd ac a redodd 600,000 o gamau mewn 60 diwrnod
Cafodd yr holl arian ei godi ar gyfer ein helusennau staff: Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, Cerebral Palsy Cymru, Parkinson’s UK yng Nghymru, a Cymru Versus Arthritis.
Mae wedi bod yn garreg filltir i’w chofio!
