Newyddion

06/10/2023

Diwygio’r cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad safle hen Ysbyty Aberteifi

Rydym wedi cyhoeddi cynllun diwygiedig ar gyfer ailddatblygiad safle hen Ysbyty Aberteifi er mwyn creu cartrefi newydd i bobl hŷn, swyddfeydd a mannau cyhoeddus.

Cymeradwyodd Cyngor Sir Ceredigion gynlluniau TWW i gynnal y Priordy gwreiddiol fel man canolog y datblygiad ym mis Mehefin 2021.  Roedd y cynlluniau yn cynnwys 34 o fflatiau ar gyfer pobl leol, swyddfeydd newydd ar gyfer Tai Wales & West, lleoliad rhanbarthol ar gyfer ei chwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, caffi cyhoeddus a gerddi.

Cychwynnwyd ar y gwaith dymchwel yn ystod y gwanwyn dilynol, a dilynwyd hyn gan waith i wneud y ddaear yn wastad, ond bu’n rhaid oedi’r gwaith adeiladu o ganlyniad i’r sefyllfa economaidd a oedd yn effeithio ar gost ac argaeledd deunyddiau a llafur yn y sector adeiladu.

Bellach, mae gwaith archeolegol wedi ailgychwyn ar y safle er mwyn sicrhau na tharfir ar unrhyw olion pwysig pan fydd y gwaith adeiladu yn cychwyn.  Caiff y gwaith hwn ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.

Mae TWW yn gweithio gyda phenseiri hefyd i ail-ddylunio’r datblygiad, ac o ganlyniad, bydd nifer y fflatiau yn cael eu gostwng i 20, a chynigir lle parcio ychwanegol i breswylwyr a mwy o gyfle i bobl weld Eglwys y Santes Fair a’r Priordy.

Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol yn Nhai Wales & West:  “Fel nifer o adeiladwyr, rydym wedi wynebu sawl her o ran deunyddiau a llafur ar ôl y pandemig, na fyddem wedi gallu eu rhagweld, ac mae’r rhain wedi oedi’r prosiect yn hirach nag y byddem wedi dymuno.

“Ar ôl i ni ddymchwel adeiladau’r ysbyty, cawsom nifer o sylwadau gan bobl yn y dref, yn sôn faint yr oeddent yn mwynhau gallu gweld Eglwys y Santes Fair.

“Buom yn myfyrio am y datblygiad ac roeddem yn teimlo nad oedd ein dyluniad presennol yn manteisio i’r eithaf ar yr olygfa o ffenestr odidog y dwyrain yn Eglwys y Santes Fair, sydd wrth ymyl ein safle.

“Rydym wedi penderfynu diwygio ein cynlluniau, a thynnu un o’r blociau gwreiddiol o fflatiau allan.  Bydd hyn yn agor yr olygfa i gefn y Priordy ac i ffenestr ddwyreiniol Eglwys y Santes Fair, sy’n golygu y bydd pawb a fydd yn ymweld ag Aberteifi trwy Bont y Cleifion yn gallu mwynhau’r olygfa honno wrth y fynedfa i’r dref.”
Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol yn Nhai Wales & West

“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i ni, ac i’r dref, felly rydym wastad wedi dymuno gwneud y peth iawn.  Credwn y bydd ein dyluniad diwygiedig yn gwella’r cynllun yn sylweddol ar gyfer y bobl a fydd yn byw ac yn gweithio yno, ac i’r ymwelwyr a’r bobl leol a fydd yn defnyddio’r ardaloedd cyhoeddus.”

Cam nesaf y datblygiad fydd cynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais, lle y caiff y dyluniadau diwygiedig eu cyflwyno ac ystyrir adborth gan bobl leol cyn cyflwyno’r cais cynllunio newydd i Gyngor Sir Ceredigion.

Os rhoddir caniatâd, disgwylir i’r gwaith adeiladu ailgychwyn yn ystod yr haf flwyddyn nesaf, a bydd yn cymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.