Cadw ein cymunedau yn lân

Gall cymhennu eich cartref ar gyfer y gwanwyn wneud i chi deimlo’n well a gwneud eich cartref yn fwy taclus. Ond ar ôl i chi gymhennu, sut mae cael gwared ar yr eitemau diangen hynny mewn ffordd gyfrifol?
Mae’r adroddiadau am dipio anghyfreithlon ar draws Cymru yn cynyddu, felly mae’n bwysicach nag erioed sicrhau eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff yn y man cywir.
Os ydych chi’n byw mewn cynllun sy’n cynnwys safleoedd storio biniau cymunol yn unig, dim ond gwastraff cartref ddylech chi ei roi yn y biniau a ddarparir.
Sicrhewch bod eich deunydd i’w ailgylchu yn mynd yn y biniau cywir. Ni fydd yr awdurdod lleol yn ei gasglu os bydd wedi cael ei gymysgu.
Peidiwch â gadael unrhyw sbwriel neu eitemau mwy o faint ar lawr storfeydd biniau, ni fyddant yn cael eu casglu.
Yr hyn y mae modd ei ailgylchu
Er bod rheolau ailgylchu yn amrywio i bob awdurdod lleol, mae’r dosbarthiadau ar gyfer deunydd i’w ailgylchu fel a ganlyn yn fras:
- papur a chardbord
- gwydr, metel, plastig
- gwastraff bwyd
- gwastraff gardd
Sut i waredu gwastraff swmpus mewn ffordd ddiogel
Mae cynghorau lleol yn codi ffi am gasglu eitemau cartref mawr fel soffas, byrddau, gwelyau, oergelloedd a pheiriannau golchi dillad. Gallwch drefnu hyn trwy gysylltu â’ch cyngor lleol ac archebu’r gwasanaeth.
Mae’r costau yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, ond yn gyffredinol, maent yn amrywio o £15 i £65, gan ddibynnu ar nifer yr eitemau yr hoffech iddynt gael eu casglu. Mae rhai ardaloedd yn cynnig cyfraddau is i bobl sy’n cael rhai budd-daliadau hefyd.
Ar ôl archebu’r gwasanaeth, bydd y cyngor yn gofyn i chi sicrhau bod yr eitemau yn cael eu gosod wrth ymyl y ffordd yn barod i’w casglu ar ddyddiad penodedig. Os disgwylir glaw, dylech ystyried gorchuddio eitemau fel soffas neu fatresi gyda gorchudd sy’n dal dŵr oherwydd y bydd y casglwyr yn gwrthod eu cymryd efallai os byddant yn wlyb.
Gall gwastraff heb ei gasglu ddenu llygod mawr a fermin arall, sy’n gallu ei ddefnyddio i nythu neu fwydo. Os byddwn yn cael ein galw allan i drin problemau plâu neu waredu gwastraff, gall hyn arwain at daliadau gwasanaeth ychwanegol.
Mynd ag eitemau i’ch canolfan ailgylchu leol
Os oes gennych chi drafnidiaeth, gallech fynd â’ch eitem i’ch canolfan ailgylchu a gwastraff cartref leol (tip). Yn gyntaf, gwiriwch eu bod yn derbyn y math o eitem yr ydych chi’n cael gwared arni ac a oes angen i chi wneud apwyntiad neu a oes angen trwydded arnoch ar gyfer eich cerbyd.
Gwybodaeth bellach
I gael manylion eich canolfan ailgylchu agosaf neu’r rheolau ailgylchu ar gyfer eich ardal, trowch at y tudalennau gwaredu gwastraff ar wefan eich cyngor lleol.
I gael gwybod manylion eich awdurdod lleol, trowch at gov.wales/find-your-local-authority a nodwch eich cod post.
