Newyddion

18/08/2023

Bydd datblygiad tai newydd yng nghanol y ddinas yn helpu gydag argyfwng tai Caerdydd

Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi cymeradwyo ein cynlluniau i adeiladu datblygiad tai newydd ar gyrion canol dinas Caerdydd.  Lleolir y safle ar gornel Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Heol yr Eglwys Gadeiriol Isaf, gyferbyn â thafarn Westgate a gerllaw Eglwys Adfentydd y Seithfed Dydd a Gerddi Soffia. 

Mae’r gymeradwyaeth yn dilyn dwy flynedd o drafodaethau gyda chynllunwyr Dinas Caerdydd a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau dyluniad o’r ansawdd uchaf mewn lleoliad allweddol.  Bydd y cynllun hynod o gynaliadwy yn darparu 81 o fflatiau rhent cymdeithasol a phedair uned fasnachol.  Mae’r cynllun yn cynnwys gardd llawr cyntaf ar y to i’r holl breswylwyr ei mwynhau a bydd gan ran fwyaf y fflatiau falconïau preifat. 

Bydd y cartrefi yn cynnwys lefelau inswleiddio uchel er mwyn cynyddu effeithlonrwydd thermol a lleihau’r costau rhedeg ar gyfer y preswylwyr.  Yn lle boeleri nwy traddodiadol sy’n defnyddio tanwydd ffosil, gosodir paneli ffotofoltäig ar y to er mwyn cynhyrchu trydan, a fydd yn helpu i redeg y system wresogi a’r dŵr poeth, gan gadw’r costau ynni yn isel i breswylwyr.  Darparir y dŵr poeth gan bympiau gwres ffynhonnell aer. 

O ystyried eu lleoliad yn nghanol y ddinas, gyda mynediad i lonydd beicio, safleoedd bws a thrafnidiaeth gyhoeddus arall, ni ddarparir lleoedd parcio yn y cynllun, er mwyn annog preswylwyr i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.  Bydd lle parcio beic dynodedig ar gyfer pob fflat. 

Mae’r caniatâd cynllunio yn destun cytundeb cyfreithiol Adran 106.  Fel rhan o’r cytundeb hwnnw, bydd Tai Wales & West yn cyfrannu £260,000 i’r awdurdod lleol hefyd er mwyn cynorthwyo cyfleusterau cymunedol, mannau agored cyhoeddus a chynlluniau teithio llesol a rheoli traffig yn yr ardal. 

Wrth roi caniatâd yn ystod eu cyfarfod ym mis Awst, roedd aelodau’r pwyllgor cynllunio yn cydnabod yr angen aciwt am dai fforddiadwy yng Nghaerdydd, ac roeddent yn teimlo’n gadarnhaol am y cynllun a’i arwyddocâd wrth fodloni’r galw yn yr ardal. 

Dywedodd Cyng Abdul Sattar, cynghorydd ar gyfer Grangetown:  “Heb os, mae angen y datblygiad hwn yn yr ardal hon.  Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom yn ardal Grangetown, Riverside a Butetown.”  

“Mae tai cymdeithasol yn trawsnewid bywydau pobl, ac mae angen dybryd amdano yng Nghaerdydd.”
Cadeirydd y pwyllgor, Cyng Ed Stubbs

 Ar hyn o bryd, mae dros 8,000 o bobl yn aros am dai fforddiadwy ar restr aros Cyngor Caerdydd, ac mae angen lle un ystafell wely ar nifer arwyddocaol ohonynt. 

 Ar ôl eu cwblhau, caiff y fflatiau eu gosod i bobl sy’n aros am dai addas ar gofrestr tai Cyngor Caerdydd. 

 Dywedodd Jo Curson, Cyfarwyddwr Datblygu Tai Wales & West:  “Mae hwn yn brosiect cyffrous i ni. 

 “Rydym wrth ein bodd bod aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid y datblygiad.” 

 “Rydym wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn ymgynghori gyda’r awdurdod lleol i greu cynllun a fydd yn gweddu i’r ardal.  Mae’r lleoliad yn un o’r prif byrth i ganol y ddinas a chan fod mor agos i’r canol, mae’n cynnig y cyfle i ni adeiladu cartrefi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.” 

 “Mawr obeithiwn y bydd ein datblygiad yn chwarae rhan fechan wrth helpu gyda’r angen dybryd am dai cymdeithasol yng nghanol y ddinas.”
Jo Curson, Cyfarwyddwr Datblygu Tai Wales & West

 “Y cam nesaf yw nodi contractwr sy’n rhannu ein hymrwymiad i ansawdd a mawr obeithiwn gychwyn ar y safle flwyddyn nesaf.” 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.