Newyddion

22/10/2025

Arhoswch yn ddiogel ar noson Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt eleni

Calan Gaeaf Hapus

Mae’r nosweithiau tywyllach a hirach yn arwydd bod Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt ar y gorwel ac rydym yn annog ein holl breswylwyr i wneud yr hyn y gallant i gadw’n ddiogel fis Hydref a Thachwedd eleni.

Yn unol â chyngor ein tri Gwasanaeth Tân ac Achub cenedlaethol, argymhellir eich bod yn mynychu digwyddiad tân gwyllt wedi’i drefnu.  Gall tân gwyllt fod yn beryglus felly hon yw’r ffordd fwyaf diogel o fwynhau Noson Tân Gwyllt.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn uchafbwynt i nifer o deuluoedd a chymunedau, ond gall arwain at bryderon i bobl oedrannus ac agored i niwed hefyd, gyda chynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddir.

Parchwch unrhyw gymdogion sy’n dangos posteri “dim cast ynteu ceiniog” pan fyddwch allan ar noson Calan Gaeaf, a pharchwch eraill os ydych chi’n cael eich dathliadau Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt eich hun.

Cyngor diogelwch ar gyfer Calan Gaeaf

  • Sicrhewch bod unrhyw gwisgoedd Calan Gaeaf y byddwch yn eu prynu yn cynnwys marc CE, gan bod hyn yn dystiolaeth o’r ffaith ei bod yn ddiogel i’w defnyddio
  • Byddwch yn ofalus gyda chanhwyllau – gallech fuddsoddi mewn cannwyll LED heb fflam fel dewis amgen diogel
  • Os bydd gwisg Calan Gaeaf yn mynd ar dân, cofiwch ‘stopio, cwympo a rholio’ er mwyn bod yn ddiogel

Noson Tan Gwyllt Cyngor diogelwch ar Noson Tân Gwyllt

  • Dylech geisio mynychu digwyddiad tân gwyllt wedi’i drefnu bob tro
  • Os byddwch yn dewis defnyddio tân gwyllt gartref, dilynwch y Cod Diogelwch Tân Gwyllt
  • Arhoswch yn ddigon pell yn ôl os byddwch yn gwylio tân gwyllt
  • Ni ddylech fyth fynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl ei gynnau
  • Ni ddylech fyth rhoi ffon wreichion i blentyn dan 5 oed


Cyngor gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol

Mae gan holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru dudalennau ar y we ynghylch diogelwch adeg Calan Gaeaf ac ar Noson Tân Gwyllt.

Gogledd Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi

De Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Diogelwch Calan Gaeaf

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Diogelwch Tân Gwyllt

 

 

Freya Whitton